Cyfarchiad i'r Haul

Ymarferion corfforol mewn cyfres o symudiadau ioga yw Cyfarch yr Haul neu Cyfarchiad i'r Haul (drishtiyogshala Archifwyd 2023-12-07 yn y Peiriant Wayback.: Sansgrit: सूर्यनमस्कार ; Saesneg: Sun Salutation),[2] gyda'r bwriad o ymarfer y corff. Dylai'r gyfres lifo'n esmwyth o'r naill symudiad i'r llall gyda 12 symudiad i gyd, a phob osgo (asana) wedi'u cysylltu'n osgeiddig fel cadwyn o berlau.[3][4]

Cyfarchiad i'r Haul
Enghraifft o'r canlynolsequence, cysyniad crefyddol Edit this on Wikidata
Mathasana Edit this on Wikidata
Rhan ocyfres ioga Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun o'r 12 asanas o un math o'r gyfres a elwir yn "Gyfarch yr Haul"[a] ym Maes Awyr Indira Gandhi, Delhi [1] (cerfluniau wedi'u creu gan Nikhil Bhandari)

Cofnodwyd y dilyniant asana gyntaf o ioga ar ddechrau'r 20g, er bod ymarferion tebyg yn cael eu defnyddio yn India cyn hynny, er enghraifft ymhlith reslwyr. Mae'r dilyniant sylfaenol yn cynnwys symud o asana sefyll i mewn i asanau Ci ar i Lawr ac ar i Fyny ac yna yn ôl i'r safle sefyll, ond mae llawer o amrywiadau'n bosibl. Mae'r set o 12 asana wedi'i chysegru i dduw Hindŵaidd yr Haul, sef Surya, nid annhebyg i'r duw Celtaidd Lleu, efallai. Mewn rhai traddodiadau Indiaidd, mae'r asanas i gyd yn gysylltiedig â mantra gwahanol.

Mae union darddiad y gyfres yma o asanas yn ansicr, ond gwnaed y dilyniant yn boblogaidd yn gynnar yn yr 20g gan Bhawanrao Shriniwasrao Pant Pratinidhi, sef Rajah Aundh, a'i fabwysiadu i fewn i ioga gan Krishnamacharya ym Mhalas Mysore. Roedd athrawon ioga arloesol a addysgwyd gan Krishnamacharya, gan gynnwys Pattabhi Jois a B. K. S. Iyengar, ill dau'n dysgu trawsnewidiadau rhwng asanas sy'n deillio o Gyfarchiad i'r Haul i'w disgyblion ledled y byd.

Geirdarddiad a gwreiddiau golygu

 
Darparodd Bhawanrao Shriniwasrao Pant Pratinidhi y canllaw tudalen ddwbl hon i Gyfarchiad i'r Haul yng nghefn ei lyfr 1928 The Ten-Point Way to Health: Surya Namaskars yn ogystal ag yng nghorff y testun, gan nodi y gellid ei dynnu i'w ddefnyddio heb niweidio testun y llyfr.[5]

Daw'r enw Surya Namaskar o'r Sansgrit सूर्य Sūrya, "Haul a नमस्कार Namaskāra, "Cyfarchiad" neu "Saliwt".[6] Fel a nodwyd, Surya yw duw Hindŵaidd yr haul[7] sydd hefyd yn enaid ac yn ffynhonnell pob bywyd.[8] Mae Chandra Namaskar yn yr un modd o Sansgrit चन्द्र Chandra, "Lloer".[9]

Disgrifiad golygu

Mae Cyfarchiad i'r Haul yn ddilyniant o tua deuddeg asanas ioga wedi'u cysylltu trwy neidio neu ymestyn symudiadau, gan amrywio rhywfaint.[10] Yn Ioga Iyengar, y dilyniant sylfaenol yw Tadasana, Urdhva Hastasana, Uttanasana, Uttanasana ar i fyny, Adho Mukha Svanasana, Urdhva Mukha Svanasana, Chaturanga Dandasana, ac yna gwrthdroi'r dilyniant i ddychwelyd i Tadasana; gellir gosod asanas eraill yn y dilyniant.[6]

Yn Ioga Ashtanga Vinyasa, ceir dau ddilyniant Cyfarch[11]iad i'r Haul, mathau A a B.[12] Y dilyniant math A o asanas yw:

Pranamasana, Urdhva Hastasana, Uttanasana, Phalakasana (planc uchel), Chaturanga Dandasana, Urdhva Mukha Svanasana, Adho Mukha Svanasana, Uttanasana ac yn ôl i Pranamasana.[12]

Y dilyniant math B o asanas (gwahaniaethau wedi'u marcio mewn llythrennau italig) yw Pranamasana, Utkatasana, Uttanasana, Ardha Uttanasana, Phalakasana, Chaturanga Dandasana, Urdhva Mukha Svanasana, Adho Mukha Svanasana, Virabhadrasana I, ailadroddwch o Phalakasana ymlaen gyda Virabhadrasana yna ailadroddwch Phalakasana drwodd i Adho Mukha Svanasana (y trydydd tro), Ardha Uttanasana, Uttanasana, Utkatasana, ac yn ôl i Pranamasana.[12]

Fideo o'r symudiadau

Cylch Cyfarchiad i'r Haul nodweddiadol:[b]

 

1. Pranamasana

 

2. Hasta
Uttanasana

 

3. Uttanasana

 

12. Yn ôl i 1

 

4. Anjaneyasana

 

11. Hasta
Uttanasana

 

5. Adho Mukha
Svanasana

 

10. Uttanasana

 

6. Ashtanga
Namaskara

 

9. Anjaneyasana,
troed gyferbyn

 

8. Adho Mukha
Svanasana

 

7. Urdhva Mukha
Shvanasana

Mantras golygu

Mewn rhai traddodiadau o ioga, mae pob cam o'r dilyniant yn gysylltiedig â mantra. Mewn traddodiadau gan gynnwys Ioga Sivananda, mae'r camau wedi'u cysylltu â deuddeg enw'r Duw Surya, sef yr Haul:[13]

Cam (Asana) Mantra (enw'r Surya) [13] Cyfieithiad [13]
Tadasana ॐ मित्राय नमः Oṃ Mitrāya Namaḥ serchog i bawb
Urdhva Hastasana ॐ रवये नमः Oṃ Ravaye Namaḥ achos pob newid
Padahastasana ॐ सूर्याय नमः Oṃ Sūryāya Namaḥ sy'n cymell yr holl weithgaredd
Ashwa Sanchalanasana ॐ भानवे नमः Oṃ Bhānave Namaḥ tarddiad goleuni
Parvatasana ॐ खगाय नमः Oṃ Khagāya Namaḥ sy'n symud yn yr awyr
Ashtanga Namaskara ॐ पूष्णे नमः Oṃ Pūṣṇe Namaḥ sy'n maethu pawb
Bhujangasana ॐ हिरण्यगर्भाय नमः Oṃ Hiraṇya Garbhāya Namaḥ sy'n cynnwys popeth
Parvatasana ॐ मरीचये नमः Oṃ Marīcaye Namaḥ sy'n meddu ar raga
Ashwa Sanchalanasana ॐ आदित्याय नमः Oṃ Ādityāya Namaḥ mab Aditi
Padahastasana ॐ सवित्रे नमः Oṃ Savitre Namaḥ sy'n cynhyrchu popeth
Urdhva Hastasana ॐ अर्काय नमः Oṃ Arkāya Namaḥ cymwys i'w addoli
Tadasana ॐ भास्कराय नमः Oṃ Bhāskarāya Namaḥ achos goleuni

Mae traddodiad Indiaidd yn cysylltu'r camau â mantras Bījā (sain "had") a chyda phum chakras (canolbwyntiau'r corff ystwyth).[14][15]

Cam (Asana) Bījā mantra [14][15][c] Chakra[15] Anadlu
Tadasana ॐ ह्रां Oṃ Hrāṁ Anahata (calon) allanadlu
Urdhva Hastasana ॐ ह्रीं Oṃ Hrīṁ Vishuddhi (gwddf) mewn-anadlu
Padahastasana ॐ ह्रूं Oṃ Hrūṁ Swadhisthana (sacrwm) allanadlu
Ashwa Sanchalanasana ॐ ह्रैं Oṃ Hraiṁ Ajna (trydydd llygad) mewn-anadlu
Parvatasana ॐ ह्रौं Om Hrauṁ Vishuddhi (gwddf) allanadlu
Ashtanga Namaskara ॐ ह्रः Oṃ Hraḥ Manipura (plexws solar) atal
Bhujangasana ॐ ह्रां Oṃ Hrāṁ Swadhisthana (sacrwm) mewn-anadlu
Parvatasana ॐ ह्रीं Oṃ Hrīṁ Vishuddhi (gwddf) exhale
Ashwa Sanchalanasana ॐ ह्रूं Oṃ Hrūṁ Ajna (trydydd llygad) mewn-anadlu
Padahastasana ॐ ह्रैं Oṃ Hraiṁ Swadhisthana (sacrwm) allanadlu
Urdhva Hastasana ॐ ह्रौं Oṃ Hrauṁ Vishuddhi (gwddf) mewn-anadlu
Tadasana ॐ ह्रः Oṃ Hraḥ Anahata (calon) allanadlu

Amrywiadau golygu

Mewnosod asanas eraill golygu

Mae llawer o amrywiadau'n bosib. Er enghraifft, yn Ioga Iyengar gellir amrywio'r dilyniant yn fwriadol i redeg asanas Tadasana, Urdhva Hastasana, Uttanasana, Adho Mukha Svanasana, Lolasana, Janusirsasana (un ochr, yna'r llall), a gwrthdroi'r dilyniant o Adho Mukha Svanasana i ddychwelyd i Tadasana. Ymhlith asanas eraill y gellir eu mewnosod yn y dilyniant mae Navasana (neu Ardha Navasana), Paschimottanasana a'i amrywiadau, a Marichyasana I. [17]

Chandra Namaskar golygu

Weithiau mae dilyniannau amrywiol o'r enw Chandra Namaskar, Cyfarchiad i'r Lloer (Moon Salutation), yn cael eu hymarfer; crëwyd y rhain yn hwyr yn yr 20g.[18] Mae un dilyniant o'r fath yn cynnwys yr asanas Tadasana, Urdhva Hastasana, Anjaneyasana (a elwir weithiau'n Hanner Lleuad), penlinio, Adho Mukha Svanasana, Bitilasana, Balasana, penlinio â morddwydydd, corff, a breichiau'n pwyntio'n syth i fyny, Balasana gyda phenelinoedd ar y llawr, dwylo gyda'i gilydd yn Anjali Mudra y tu ôl i'r pen, Urdhva Mukha Svanasana, Adho Mukha Svanasana, Uttanasana, Urdhva Hastasana, Pranamasana, a Tadasana.[19] Cyhoeddwyd Cyfarchiad i'r Lloer eraill gyda gwahanol asanas.[18][20][21] Ond yn wahanol i Gyfarchiad i'r Haul, mae'r Chandra Namaskar yn cael ei berfformio yn ystod y nos.[22]

Fel ymarfer corff golygu

 
Cyfarchiad i'r Haul mewn digwyddiad ioga cyhoeddus yn Katni, India

Mae cost egni ymarfer corff yn cael ei fesur mewn unedau o metabolic equivalent of tasg (MET). Mae llai na 3 MET yn cyfrif fel ymarfer corff ysgafn; Mae 3 i 6 MET yn gymedrol; Mae 6 neu drosodd yn egnïol. Mae canllawiau Coleg Meddygaeth Chwaraeon America a Chymdeithas y Galon America yn cyfrif cyfnodau o leiaf 10 munud o weithgaredd cymedrol ar lefel MET tuag at swm yr ymarfer corff dyddiol a argymhellir.[23][24] Ar gyfer oedolion iach rhwng 18 a 65 oed, mae'r canllawiau'n argymell ymarfer corff cymedrol am 30 munud bum diwrnod yr wythnos, neu ymarfer corff aerobig egnïol am 20 munud tri diwrnod yr wythnos.[24]

Mae cost ynni Cyfarchiad yr Haul yn amrywio'n fawr yn ôl pa mor egnïol y mae'n cael ei ymarfer, o 2.9 ysgafn i 7.4 MET egnïol. Mae pen uchaf yr ystod yn gofyn am neidiau rhwng yr ystumiau.

Mewn diwylliant golygu

Dywedodd sylfaenydd Ioga Ashtanga Vinyasa, K. Pattabhi Jois, "Nid oes unrhyw ioga Ashtanga heb Surya Namaskara, sef y cyfarchiad eithaf i dduw'r Haul."[25]

Yn 2019, dringodd tîm o hyfforddwyr mynydda o Darjeeling i gopa Mount Elbrus a chwblhau Cyfarchiad i'r Haul yno 18,000 troedfedd (5,700 m), a honnir ei fod yn record byd.[26]

Nodiadau golygu

  1. Incorporating Ashtanga Namaskara in place of Caturanga Dandasana
  2. As shown in the Indira Gandhi Airport sculpture, above.
  3. The Bījā mantras are sounds, not translatable words.[16]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Destination Delhi". Indian Express. 4 Medi 2010.
  2. Singh, Kritika. Sun Salutation: Full step by step explanation. Surya Namaskar Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-21. Cyrchwyd 2021-12-21.
  3. Mitchell, Carol (2003). Yoga on the Ball. Inner Traditions. t. 48. ISBN 978-0-89281-999-7.
  4. MacMullen, Jane (1988). Ashtanga Yoga. September/October. pp. 68–70. https://books.google.com/books?id=cfUDAAAAMBAJ&pg=PA68.
  5. Singleton 2010, tt. 180–181, 205–206.
  6. 6.0 6.1 Mehta 1990.
  7. Dalal, Roshen (2010). Hinduism: An Alphabetical Guide. Penguin Books India. t. 343. ISBN 978-0-14-341421-6.
  8. Krishan Kumar Suman (2006). Yoga for Health and Relaxation. Lotus. tt. 83–84. ISBN 978-81-8382-049-3.
  9. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  10. "How to do 12 Surya Namaskar Postures - You Should Practice Every Morning". Yoga Vini (yn Saesneg). 2020-03-11. Cyrchwyd 2020-04-07.
  11. "What is Tadasana and its benefits and contraindications?" (yn Saesneg). 2022-11-17. Missing or empty |url= (help); |access-date= requires |url= (help)
  12. 12.0 12.1 12.2 Hughes, Aimee. "Sun Salutation A Versus Sun Salutation B: The Difference You Should Know". Yogapedia.
  13. 13.0 13.1 13.2 "Surya Namaskara". Divine Life Society. 2011. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.
  14. 14.0 14.1 Omar, Shazia (27 December 2016). "Sonic salutations to the sun". Daily Star.
  15. 15.0 15.1 15.2 Hardowar, Radha (June 2018). "Surya Namaskar" (PDF). Shri Surya Narayan Mandir.
  16. Woodroffe, Sir John (2009) [1919]. ŚAKTI AND ŚĀKTA ESSAYS AND ADDRESSES ON THE ŚĀKTA TANTRAŚĀSTRA (arg. 3rd). Celephaïs Press. t. 456. ŚAKTI AS MANTRA intoned in the proper way, according to both sound (Varṇ a) and rhythm (Svara). For these reasons, a Mantra when translated ceases to be such, and becomes a mere word or sentence. By Mantra, the sought-for (Sādhya) Devatb appears, and by Siddhi therein it had vision of the three worlds. As the Mantra is in fact Devatā, by practice thereof this is known. Not merely do the rhythmical vibrations of its sounds regulate the unsteady vibrations of the sheaths of the worshipper, but therefrom the image of the Devatā, appears. As the Bṛ had-Gandharva Tantra says (Ch. V):— Śrinu devi pravakṣ yāmi bījānām deva-rūpatām Mantroccāranamātrena deva-rūpam prajāyate.
  17. Mehta 1990, tt. 146–147.
  18. 18.0 18.1 Ferretti, Andrea; Rea, Shiva (1 Mawrth 2012). "Soothing Moon Shine: Chandra Namaskar". Yoga Journal.
  19. Mirsky, Karina. "A Meditative Moon Salutation". Yoga International. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2019.
  20. Venkatesan, Supriya. "Moon Salutations" (yn Saesneg). Yoga U. Cyrchwyd 23 Gorffannaf 2019. Check date values in: |access-date= (help)
  21. Tomlinson, Kirsty. "Moon Salutation sequence". Ekhart Yoga. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2019.
  22. Mukharjee, Arindam. "Surya Namaskar steps and Benefits" (yn Saesneg). Rishikesh Yoga Teacher Training Center. Cyrchwyd 19 Ebrill 2021.
  23. Larson-Meyer, D. Enette (2016). "A Systematic Review of the Energy Cost and Metabolic Intensity of Yoga". Medicine & Science in Sports & Exercise 48 (8): 1558–1569. doi:10.1249/MSS.0000000000000922. ISSN 0195-9131. PMID 27433961. The review examined 17 studies, of which 10 measured the energy cost of yoga sessions.
  24. 24.0 24.1 Haskell, William L. (2007). "Physical Activity and Public Health". Circulation 116 (9): 1081–1093. doi:10.1161/CIRCULATIONAHA.107.185649. ISSN 0009-7322. PMID 17671237.
  25. "Surya Namaskar in the words of Sri K. Pattabhi Jois". Discover the Purpose. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-21. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.
  26. "Suryanamaskar and Yoga Atop of Mountain Summit (18600 Feet)". World Records India (yn Saesneg). 3 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2019.

Llyfryddiaeth golygu