Ardrossan
Tref a phorthladd yn ne-orllewin yr Alban yw Ardrossan (Gaeleg yr Alban: Aird Rosain). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 10,952. Saif yn sir Gogledd Swydd Ayr, 17 milltir i'r gogledd o Ayr. Mae Caerdydd 475.5 km i ffwrdd o Ardrossan ac mae Llundain yn 554.4 km. Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 42.7 km i ffwrdd.
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 10,670 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Ayr |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 3.29 km² |
Cyfesurynnau | 55.6432°N 4.8097°W |
Cod SYG | S20000006, S19000006 |
Cod OS | NS232424 |
Adeiladwyd castell yma gan Simon de Morville tua 1140. Cipiwyd ef gan y Saeson yn 1292, yn ystod teyrnasiad John Balliol; ym 1296 cipiwyd ef yn ôl gan William Wallace. Datblygodd Ardrossan fel porthladd yn ystod y 18fed a'r 19g. Ceir gwasanaeth fferi iddi yno i Brodick ar Ynys Arran.