Arfanitiaid (Saesneg: Arvanites, Groegeg: Αρβανίτες, Arvanítes; Arvanitika: Arbëreshë / Αρbε̰ρεσ̈ε̰ or Arbërorë) cymuned ieithyddol Albaneg yng Gwlad Groeg.

Tafodieithoedd Arfanitiaid mewn coch o fewn Gwlad Groeg

Maent bellach, bron yn ddieithriad yn ddwyieithog ac yn siarad y dafodiaith Arfaniteg (Arvanitika) ynghyd â Groeg. Mae ei tafodiaieth yn rhan o dafodiaith Tosc yr iaith Albaneg.

Symudodd yr Arfanitiaid i wlad Groeg yn yr Oesoedd Canol hwyr. Nhw oedd poblogaeth ddominyddol ardaloedd o'r Peloponnese ac Attica hyd nes 19g. Bellach, o ganlyniad i all-fudo a phwysau trwm gan y wladwriaeth Groegaidd i gydymffurfio a dim statws ieithyddol, mae'r gymuned yn ystyried ei hunain fel Groegiaid.

Symudodd y gymuned o ardal Arvanon (Άρβανον) neu Arvana (Άρβανα), sydd yn Albania gyfoes bellach, rhwng 13g a 16g. Does dim consensws dros pam i'r boblogaeth symud. Awgrymir eu bod yn ffoi pwysau i droi i ffydd Islam, newin yn eu tiroedd brodorol neu iddynt gael ei croesawu yno i boblogeiddio tiroedd oedd wedi di-boblogi.

Bu hefyd mudo gan Albaniaid eraill i'r Eidal yn ystod yr Oesoedd Canol. Sefydlwyd oddeutu 50 pentref Albanaidd gan y bobl a adnabwyd fel Albanese gan yr Eidalwyr ond a adnebir heddiw yn amlach gan yr enw Arberesh.

Demograffeg

golygu

Nid oes ffigurau dibynadwy ar nifer siaradwyr Albaneg na chwaith y rheini sy'n ystyried ei hunain yn Arfanitiaid gan nad yw Groeg gyfoes yn gofyn (na chydnabod) cwestiynau ethnigrwydd nac iaith frodorol yn ei cyfrifiad.

Daw'r ffigurau ddiweddaraf o gyfrifiad 1951. Ers hynny amcangyfrifir fod niferoedd yr Arfanitiaid yn gorwedd rhwng 25,000 a 200,000. Gellir tybio mai isel iawn yw'r niferoedd sy'n dal i siarad yr iaith.