Tosc (Tosk yn Saesneg; toskë/toskërisht yn Albaneg) yw'r enw un o'r ddau brif dafodiaeth o'r iaith Albaneg. Siaredir Tosgeg yn ne Albania ac ymysg cymunedau Arberesh (Arbëresh) yn yr Eidal a'r Arfanitiaid (Saesneg: Arvanites) yng Ngwlad Groeg. Seilir yr iaith unedig, safonol Albaneg ar y dafodiaeth Tosc. Yr enw ar y brif dafodiaeth arall yw Geg.

Tafodieithoedd Albaneg, Tosc mewn coch

Rhaniad Daearyddol golygu

Y brif dafodiaeth arall yn yr iaith Albaneg, yw Tosc a siadedir i'r de o'r afon Shkumbin ac ar draws canol gwladwrieth Albania a nifer o chymunedau bychain Albaneg yn yr Eidal (yr Arberesh). Mae'r ffin ieithyddol yma yn dilyn hen lwybr y ffordd Rufeinig, y Via Egnatia a ceir tiriogaeth traws-dafodiaethol naill ochr i'r afon oddeutu 10 km - 20 km mewn lled. Ceir gwahaniaethau o fewn y dafodiaeth Geg yn enwedig rhwng tafodieithoedd Gogledd-orllewin Albania a Chosofo. Mae'r sefyllfa yng Ngogledd Macedonia hefyd yn wahanol iawn i hynny yn Albania a Cosofo. Mae'r Gegeg a'r Tosceg yn amrywio'n ffonolegol ac yn ramadegol.

Yn ogystal â gwahaniaethau ieithyddol yn bodoli rhwng gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol rhwng Tosc a Geg hefyd. Nid oedd gan yr Tosciaid eu heiddo eu hunain ac felly roedd yn rhaid iddynt weithio i'w landlordiaid. Ers goncwest Albania gan yr Otomaniaid Twrceg, rhoddodd y Tosciaid y gorau i system o unedau llwythol i gael yn ei lle sefydliad cymdeithasol wedi ei seilio ar y pentref. Er bod gan y Kanun (cyfraith arferol) statws isel ymysg y Tosciaid, rhoddwyd pwyslais mawr iddo yn y Gegiaid.

Hanes golygu

 
Dosbarthiad tafodieithoedd yr iaith Albaneg

Cyn yr Ail Ryfel Byd, nid oedd ymgais swyddogol llawn ar ddeddfu iaith lenyddol unedig Albaniaidd. Defnyddiwyd Geg llenyddol a Tosc llenyddol, er bod y Brenin Zog yn arddel ei dafodiaith frodorol ardal Mat, i'r gogledd o'r afon Shkumbin. Roedd tafodiaith Geg ardal Elbasan yn agos i'r ffin Tosc/Geg border ac felly yn fan canol o ran contiwm tafodieithyddol yn opsiwn fel sail iaith lenyddol unedig/ Er nad Elbasan oedd prifddinas y wladwriaeth newydd (enillodd Albania ei hannibyniaeth yn 1912) roedd iddi statws ddiwylliannol cydnabyddiedig. Yn ôl sawl un, gan gynnwys Dr Nick Nicholas mewn ateb arlein pam dewiswyd Tosc fel sail iaith safonol Albaneg byddai Geg Elbasan wedi bod yn ddewis da fel sail iaith safonnol.

Gosododd gyfundrefn comiwnyddol Enver Hoxha yn Albania safon unedig ar iaith y wladwriaeth a oedd yn seiliedig ar dafodiaeth Tosc, ardal Korçë, dinas yn ne ddwyrain y wlad. Yn 1968, mabwysiadwyd yr un safon gan yr Albaniaid yn Iwgoslafia, a oedd wedi defnyddio'r safon Geg tan hynny. Datblygwyd y broses o safoni iaith swyddogol yma gyda phenderfyniad yn 1972 pan gytunwyd ar y llawlyfr orthraffig a'r geiriadur gyntaf yr Albaneg safonol yma yn 1972. Dyma'r safon a ddefnyddiwyd ers hynny yn Albania, Cosofo, Macedonia a'c ardaloedd eraill lle siaradir Albaneg.

Roedd yr unben Comiwnyddol, Enver Hoxha yn dod o ddinas Gjirokastër ac felly yn siarad y dafodiaeth Tosc. Yn ôl Dr Nick Nicholas mewn ateb arlein pam dewiswyd Tosc fel sail iaith safonol Albaneg dewiswyd Tosc am yr union reswm hynny ac, erbyn marwolaeth Hoxha yn 1985 ac yna, cwymp Comiwnyddiaeth yn 1991, roedd y ffurf safonol newydd wedi gwreiddio ers cenhedlaeth.

Beirniadwyd yr arfer o ddefnyddio'r iaith safonol yma gan nifer o Gegiaid, yn enwedig gan Arshi Pipa, a honnodd fod y penderfyniad hwn yn amddifadu Albania o'i gyfoeth ar draul y Gegs, ac y cyfeiriodd at yr iaith Albaneg lenyddol fel "rhyfeddod" a gynhyrchir gan arweinyddiaeth gymunedol Tosc a arweiniodd yn erbyn gogledd Albania gwrth-gymdeithasol yn milwrol a gosododd ei dafodiaith Tosc Albanian ar y Ghegs.

Er mai Gegiaid oedd hunaniaeth ysgrifenwyr Albanaidd yn yr hen Iwgoslafia, dewisant ysgrifennu yn Tosc am resymau gwleidyddol. Mae gan y newid iaith lenyddol ganlyniadau gwleidyddol a diwylliannol sylweddol oherwydd mai'r iaith Albaneg yw'r prif faen prawf ar gyfer hunan-adnabod yr Albaniaid.

Esiamplau golygu

Er mai Tosc yw prif sail yr iaith Albaneg safonol unedig, nid oes unrhyw Tosc yn siarad Albaneg safonol o fewn ei tafodiaith. Mae'r iaith safonol yn cynnwys elfennau o Geg hefyd. Fel tystia Dr Kelvin Zifla mewn ateb arlein i pam ddewiswyd Tosc fel sail iaith safonol Albaneg ceir elfen Geg yn yr iaith. Er enghraifft, defnyddir y Geg ue yn hytrach na'r Tosceg onj ar ddiwedd gair (‘kërkues’ yn lle ‘kërkonjës’).

Stafonol Tosc Arbëresh De Geg Canol Gheg Gog. Ddwy. Gheg Gog. Orll. Gheg Cymraeg
Shqipëri Shqipëri Shkjipërí Shqiprí Shqipní Shqypní Shipní "Albania"
Një Një Një Nji, njo Ni Ni, njo Nja, nji "Un"
Bëj Bëj Bunj Bôj Bôj Bâj Bâj "Gwneud"
Qenë Qënë Klënë Qên Kên Kôn Kjen "Wedi bod"
Pleqëri Pleqrĩ Plekjërí Pleqni Pleqni Pleqni Pleçni "Hen oed"
Është Është or Ësht' Isht or ë Ôsht or ô Ôsht or ô Osht or o Âsht or â "I fod"
Nëntë Nëntë Nëntë Nônt Nôn Non Nând "Naw"
Shtëpi Shtëpi Shpi Shpí Shp(e)j Shp(a)j Shp(e)i "Cartref"