Arfbais Saint Barthélemy

baner

Mae arfbais Sant Barthélemy yn darian wedi'i rannu'n dair stribed llorweddol. Ar yr haen uchaf ceir tair fleurs-de-lis aur ar gefndir glas. Yn y striben ganol ceir Croes Malteg gwyn ar gefndir coch. Ar y stribed waelod ceir tair coron aur ar gefndir las. Oddi tan y darian ceir rhuban gyda'r gair, "Ouanalao" sef, enw'r bobl frodorol, yr Arawaciaid cyn oes Christopher Columbus ar yr ynys. Ar ben y darian mae coron ar ffurf mur castell gyda tri thŵr.

Arfbais (a baner answyddogol) ynys Saint Barthélemy

Mae'r fleurs-de-lis, Croes Malteg a'r coronau aur yn atgof herodraethol o hanes yr ynys fel trefedigaeth a reolwyd yn gyntaf gan Deyrnas Ffrainc, yna'r Knights Templar ac yn ei dro yn deyrnas Sweden. Yn y pen draw, dychwelodd yr ynys i reolaeth Ffrainc. Mabwysiadwyd yr arfbais yn swyddogol ar 15 Chwefror 1794. Ar waelod yr arfbais ceir y gair "Ouanalao" sef y gair gan y bobl frodorol gyntaf, yr Arawak, am yr ynys.[1]

Caiff yr arfbais ei ddefnyddio fel Baner Saint Barthélemy hefyd wrth leoli'r arfbais ar ganol llain wen.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-11. Cyrchwyd 2019-02-05.

Nodyn:Eginyn arfbais Nodyn:Saint Barthélemy