Gwyddor a chelfyddyd arfau ac arwyddion yw herodraeth.[1] Defnyddir symbolau herodrol i gynrychioli unigolion a theuluoedd, lluoedd milwrol, sefydliadau, corfforaethau a gwledydd. Tarddodd y fath arwyddion fel modd o adnabod unigolion ar faes y gad. Rhoddid yr arfbeisiau gwreiddiol yn arwyddnod milwrol ar darian y marchog a'i ryfelwyr. Ffynodd ddyluniadau herodrol yn yr Oesoedd Canol er mwyn dynodi teuluoedd brenhinol, tai'r bonedd, teitlau pendefigaidd, urddau crefyddol ac eglwysi, a byddinoedd. Dros amser daeth y dyluniadau'n hynod o gymhleth a herodraeth yn faes arbenigol. Datblygodd system ffurfiol iawn o dynnu arfbeisiau ac iaith dechnegol i ddisgrifio nodweddion a motiffau'r arwyddion. Rhoddir arwyddluniau ac arfbeisiau ar fathodynnau, baneri a seliau.

Hen enw arni yw arwyddfarddoniaeth.[2]

Rheol Tintur golygu

Ceir rheolau neu canllawiau ar gyfer y defnydd o liw mewn herodraeth a luniwyd gan y Cymro, Humphrey Lhuyd. Yr enw ar y rheol yw Rheol Tintur a'i byrdwn sylfaenol, syml yw, "dim metal ar fetal, na lliw ar liw", hynny yw, er enghraifft, ni ddilyn rhoi delwedd melyn ar gefndir gwyn neu ddelwedd goch ar gefndir las.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  herodraeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  2.  arwyddfarddoniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2019.
  Eginyn erthygl sydd uchod am herodraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.