Tarian draddodiadol a gynhelir gan gob Wganda ar y chwith a garan coronog ar y dde yw arfbais Wganda.[1] Darlunir ar y darian donnau gwyn a glas, ac haul a drwm Wgandaidd ar gefndir du, ac mae dau waywffon wedi eu croesi y tu ôl i'r darian. Saif y cynheiliaid ar fownt sydd yn cynrychioli planhigion coffi a chotwm a dyfroedd Afon Nîl, a sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: For God and My Country.

Arfbais Wganda

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 68.