Mae Afon Nîl (neu Afon Neil, Arabeg: النيل an-nīl), yn afon yn Affrica sy'n un o'r ddwy afon hwyaf yn y byd. Mae dadl yn parhau ai hi ynteu Afon Amazonas yw'r hwyaf. Mae tua 6,650 km (4,132 milltir) o hyd.[1][2] Mae ei basn draenio'n cynnwys un ar ddeg o wledydd: Tansanïa, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Cenia, Ethiopia, Eritrea, De Swdan, Swdan, a'r Aifft.[3] Y Nîl yw prif ffynhonnell ddŵr yr Aifft a Swdan.[4]

Afon Nîl
Mathafon Edit this on Wikidata
LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-نهر النيل.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladSwdan, Yr Aifft, Wganda, De Swdan, Tansanïa, Eritrea, Cenia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,700 metr, 0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15.64014°N 32.5055°E, 31.4653°N 30.3667°E Edit this on Wikidata
TarddiadAfon Nîl Wen, Afon Nîl Las Edit this on Wikidata
AberY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Atbarah, Wadi Hammamat Edit this on Wikidata
Dalgylch3,400,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd6,650 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad2,830 ±1 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae'r enw yn deillio o'r enw a roddodd y Groegiaid iddi, sef Neilos (Νειλος).

Mae Afon Nîl yn cychwyn fel dwy afon, y Nîl Las a'r Nîl Wen, sy'n ymuno â'i gilydd i greu'r brif afon. Mae hyd afon yn amrywio am sawl rheswm, gan gynnwys union leoliad y ffynhonnell a'r aber.[5]

Llun cyfansawdd lloeren o Afon Nîl

Mae gan yr afon ddwy lednant mawr: y Nîl Las a'r Nîl Wen.

Y Nîl Las golygu

Mae'r afon yma yn dechrau yn Llyn Tana yn ucheldiroedd Ethiopia, ac yn llifo tua 1,400 km (850 milltir) i ymuno â'r Nil Wen ger Khartoum. Yn yr haf, pan fydd y tymor glawog yn ucheldir Ethiopia, Y Nîl Las sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr i Afon Nîl, ond mae llawer llai o ddwr ynddi ar adegau eraill o'r flwyddyn. Ystyrir mai'r Nîl Gwyn yw blaenddyfroedd a phrif nant afon Nîl ei hun. Y Nîl Las, fodd bynnag, yw ffynhonnell y rhan fwyaf o'r dŵr - dros 80% o'r dŵr a'r gro man.

Y Nîl Wen golygu

Mae'r Nîl Wen yn cychwyn o Lyn Victoria ar ffiniau Wganda, Cenia a Tansanïa, er bod afonydd o faint sylweddol yn rhedeg i mewn i'r llyn yma ac felly'n rhan o'r un system. Mae'n llifo trwy Lyn Albert ac yna trwy Swdan lle mae'n ymuno â'r Nîl Las.[6] Mae'r Nîl Gwyn yn hirach ac yn codi yn rhanbarth y Llynnoedd Mawr yng nghanol Affrica, gyda'r ffynhonnell fwyaf pell yn dal i fod yn annelwig ond wedi'i lleoli naill ai yn Rwanda neu Bwrwndi.

Afon Nîl golygu

Wedi i'r ddwy afon ymuno â'i gilydd yn Khartoum, adnabyddir yr afon fel Afon Nîl.[7] Rhyw 300 km (200 milltir) yn nes ymlaen mae Afon Atbara, sydd hefyd yn codi yn Ethiopia, yn ymuno â hi. Mae'r afon tua hanner y ffordd i'r môr erbyn hyn, ond dyma'r afon olaf i ymuno â hi, gan ei bod yn llifo trwy ardaloedd eithriadol o sych o hyn ymlaen.

Wrth gyrraedd yr Aifft, mae'n llifo trwy Llyn Nasser, cronfa a grewyd trwy adeiladu argae Aswan. Mae'n llifo i'r Môr Canoldir gan greu delta anferth.

 
Afon Nîl yn yr Aifft

Geirdarddiad golygu

Yn hen iaith yr Aifft, gelwir y Nil yn Ḥ'pī (Hapy) neu Iteru, sy'n golygu "afon". Yn Coptic, ystyr y gair ⲫⲓⲁⲣⲟ, sy'n cael ei ynganu fel "piaro" (Sahidic) neu "phiaro" (Bohairic), yw "yr afon", ac mae'n dod o'r un enw hynafol.[8] Fel y soniwyd, mae'r enwau Arabeg en-Nîl ac an-Nîl ill dau yn deillio o'r Lladin Nilus a'r Hen Roeg Νεῖλος.[9][10] Galwodd Homer yr afon yn "Αἴγυπτος" (Aiguptos), ond yn y cyfnodau dilynol, cyfeiriodd awduron Groegaidd at ei chwrs isaf fel "Neilos;" daeth y term hwn yn gyffredin ar gyfer holl system yr afon.[11]

Afon Nîl mewn hanes golygu

Roedd Afon Nîl (iteru un yr iaith Eiffteg) yn hollol hanfodol i fywyd yn yr Hen Aifft. Roedd bron y cyfan o'r boblogaeth yn byw o fewn cyrraedd i'w glannau ac yn tyfu eu cnydau ar y tir oedd wedi ei ffrwythloni gan y dyfroedd. Roedd yr Eifftiaid yn gwahaniaethu rhwng "y tir du" ffrwythlon ger yr afon a'r "tir coch", yr anialwch tywodlyd o'i chwmpas. Pan fyddai'r glawogydd gannoedd o filltiroedd i'r de yn codi lefel y dwr yn yr afon, roedd y dwr yn gorchuddio llawer o'r tir. ac wrth i'r dyfroedd ddisgyn byddai'r ffermwyr yn plannu eu cnydau. Hyd yn oed heddiw, mae'r rhan fwyaf o boblogaeth yr Aifft yn byw ger yr afon.

Arferai cwrs yr afon Nîl lifo'n llawer mwy gorllewinol trwy'r hyn sydd bellach yn Wadi Hamim a Wadi al Maqar yn Libya ac yna llifo i Gwlff Sidra.[12] Wrth i lefel y môr godi ar ddiwedd yr oes iâ ddiweddaraf, fe wnaeth y nant sydd bellach yng ngogledd afon Nîl newid ei chwrs ger Asyut, ac arweiniodd y newid hwn yn yr hinsawdd at greu'r anialwch presennol yn y Sahara, tua 3400 CC.[13][14]

Mae'r dinasoedd pwysig ar lannau'r afon yn cynnwys Khartoum (yn y Swdan), Aswan, Luxor (Thebes), a Cairo.

Gall longau forio ar hyd yr afon cyn belled a'r argae yn Aswan. Heblaw trafnidiaeth fasnachol, mae hefyd yn boblogaidd gyda thwristiaid, sydd fel rheol yn hwylio'r afon o Luxor i Aswan, gan ymweld a'r temlau ac olion eraill o'r hen Aifft ar ei glannau.

Yr afon yng nghyfnod yr Hen Aifft golygu

Ysgrifennodd yr hanesydd o Wlad Groeg Herodotus mai "rhodd gan y Nîl oedd yr Aifft". Fel ffynhonnell gynhaliaeth ddi-baid, chwaraeodd ran hanfodol yn natblygiad gwareiddiad yr Aifft. Oherwydd bod yr afon yn gorlifo'i glannau, mae'r tir o'i chwmpas yn ffrwythlon iawn. Roedd yr Hen Eifftiaid yn tyfu ac yn masnachu gwenith, llin, papyrws a chnydau eraill o amgylch afon Nîl. Roedd gwenith yn gnwd hanfodol yn y Dwyrain Canol sydd wastad wedi'i blagio gan newyn. Sicrhaodd y system fasnachu hon berthynas ddiplomyddol yr Aifft â gwledydd eraill a chyfrannu at sefydlogrwydd economaidd y wlad. Mae masnach bellgyrhaeddol wedi cael ei chynnal ar hyd y Nîl ers yr hen amser. Cafodd yr alaw, 'Emyn i'r Nîl', ei chreu a'i chanu gan bobloedd hynafol yr Aifft am lifogydd Afon Nile a'r holl wyrthiau a ddaeth â hi i wareiddiad yr Hen Aifft.[15]

Cyfeiriadau golygu

  1. Amazon Longer Than Nile River, Scientists Say Archifwyd 15 August 2012[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  2. "How Long Is the Amazon River?". Encyclopedia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2018.
  3. Oloo, Adams (2007). "The Quest for Cooperation in the Nile Water Conflicts: A Case for Eritrea". African Sociological Review 11 (1). http://www.codesria.org/IMG/pdf/07_Oloo.pdf. Adalwyd 25 Gorffennaf 2011.
  4. Nodyn:Cite thesis
  5. "Where Does the Amazon River Begin?". National Geographic News. 15 Chwefror 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2019. Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2018.
  6. Llifa'r dwr o'r llyn hwn ar 12°02′09″N 37°15′53″E / 12.03583°N 37.26472°E / 12.03583; 37.26472
  7. "What's the Blue Nile and the White Nile?". The Times of India. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mawrth 2017. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2017.
  8. Daniel Hillel (2007). The Natural History of the Bible: An Environmental Exploration of the Hebrew Scriptures. Columbia University Press. t. 88. ISBN 978-0-231-13363-0.
  9. "Nile". Oxford English Dictionary (arg. 3rd). Oxford: Oxford University Press. 2009.
  10. Chisholm 1911, t. 693.
  11. Hans Goedicke (Spring 1979). "Νεῖλος - An Etymology". The American Journal of Philology 100 (1): 69–72. doi:10.2307/294226. JSTOR 294226.
  12. Carmignani, Luigi; Salvini, Riccardo; Bonciani, Filippo (2009). "Did the Nile River flow to the Gulf of Sirt during the late Miocene?". Bollettino della Societa Geologica Italiana (Italian Journal of Geoscience) 128 (2): 403–408. doi:10.3301/IJG.2009.128.2.403. https://www.researchgate.net/publication/256483636.
  13. Salvini, Riccardo; Carmignani, Luigi; Francionib, Mirko; Casazzaa, Paolo (2015). "Elevation modelling and palaeo-environmental interpretation in the Siwa area (Egypt): Application of SAR interferometry and radargrammetry to COSMO-SkyMed imagery". Catena 129: 46–62. doi:10.1016/j.catena.2015.02.017.
  14. Although the ancestral Sahara Desert initially developed at least 7 million years ago, it grew during interglacial periods and shrank during glacial ones. The growth of the current Sahara began about 6,000 years ago. Schuster, Mathieu (2006). "The age of the Sahara desert". Science 311 (5762): 821. doi:10.1126/science.1120161. PMID 16469920. https://www.researchgate.net/publication/51372753.
  15. "Hymn to the Nile". ARCJOHN. 23 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2016.