Cân hir yw Aria [1] sy'n cyd-fynd â llais unigol. Fel arfer mae aria i'w glywed mewn opera. Mae'n air Eidaleg o'r 18 ganrif sy'n golygu "aer" (hy tôn). Defnyddir ychydig bach o destun yn unig mewn aria. Mae nodweddion yn cynnwys defnyddio melisma, ailadrodd a dilyniannau. Yn nodweddiadol, byddai cyfeiliant llawn i'r llais unigol yn yr aria er nad yw hyn yn wir yn Dido ac Aeneas, Purcell, lle mai dim ond rhan continuo'r aria sydd dan gyfeiliant yn y rhan fwyaf o'r ariâu.

Mewn operâu o'r cyfnod Baróc roedd y rhan fwyaf o'r gerddoriaeth naill ai'n "adroddgan" neu'n "aria". Cafodd adroddgan (sy'n golygu: "i adrodd" neu "i ddweud") ei ganu yn gyflym, bron fel petai'n cael ei siarad, gyda dim ond ychydig o gordiau yn cyfeilio'r canwr, ac fel arfer ar harpsicord. Roedd y stori yn cael ei "ddweud" yn yr adroddgan. Unwaith y byddai naws y stori yn newid yna ddaw'r aria lle byddai'r canwr yn canu cân i fynegi ei deimladau. Roedd gan yr Aria mwy o sylwedd cerddorol na'r adroddgan. Fel arfer, roedd ariâu yn yr hyn a elwir ar ffurf "ABA" neu ar ffurf "Da Capo". Roedd prif adran, yna rhan ganol ac yna, ailadrodd y brif adran ("Da Capo" yw: "yn ôl i'r dechrau" [2]). Yn adran Da Capo, roedd y canwr, fel arfer, yn cael ychydig o ryddid byrfyfyr, i ychwanegu llawer o addurniadau lleisiol. Rhoddodd yr aria yn gyfle i berfformwyr arddangos eu dawn.

Nid yw'r gair "aria" yn cael ei ddefnyddio yn unig yn yr opera. Gellir dod o hyd i ariâu mewn cantatau neu fel caneuon unigol. Weithiau gelwir darnau ar gyfer offerynnau yn "aria". Yn aml, mae'r rhain yn alawon gydag amrywiadau, megis Air with Variations enwog Handel ar gyfer yr harpsicord, sydd weithiau yn cael ei alw Y Gof Cytûn (The Harmonious Blacksmith).

Yn y 19 ganrif dechreuodd y gwahaniaeth rhwng adroddgan ac aria yn yr opera i ddiflannu. Gwnaeth cyfansoddwyr fel Richard Wagner y gerddoriaeth yn llawer mwy parhaus. Nid oedd am i gynulleidfaoedd clapio yng nghanol ei operâu. Roedd am i'r gerddoriaeth ddatblygu'n ddramatig ac yn barhaus.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.