Arian cyfred
(Ailgyfeiriad o Arian breiniol)
Arian cyfred yw'r term am yr arian a ddefnyddir gan wlad neu wladwriaeth fel ei arian swyddogol. Fel rheol mae'n cael ei fathu gan lywodraeth y wlad ac mae ei ddefnydd fel cyfrwng cyfnewid (h.y. i brynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau) yn cael ei gyfyngu i'r wlad ei hun. Y Bunt Sterling yw arian cyfredol y Deyrnas Unedig tra bod yr Ewro yn cael ei ddefnyddio yn 13 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon. Mewn achosion eraill gall wlad gael mwy nag un arian breiniol sy'n ddilys yn y wlad honno.
Math | medium of exchange, uned fesur, arian, means of payment |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |