Rhys Evans

dewin a phroffwyd
(Ailgyfeiriad o Arise Evans)

Proffwyd a dewin a anwyd yn Llangelynnin ger Tywyn, Gwynedd oedd Rhys Evans (tua 1607 - ar ôl 1660). Bu'n brentis i deiliwr o Wrecsam ac yno y dechreuodd broffwydo a phrofi gweledigaethau rhyfeddol.[1] Dechreuodd alw ei hun yn "Arise Evans" ac wrth yr enw hwnnw mae'n cael ei adnabod fel arfer.[2]

Rhys Evans
FfugenwArise Evans Edit this on Wikidata
Ganwyd1607 Edit this on Wikidata
Llangelynnin Edit this on Wikidata
Bu farw1660 Edit this on Wikidata
Man preswylWrecsam, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdewin Edit this on Wikidata
Blodeuodd1607 Edit this on Wikidata

Symudodd i Lundain yn 1629. Proffwydodd beth fyddai tynged pwysigion byd gwleidyddol y ddinas ac yn yr 1650au yn ystod llywodraeth Oliver Cromwell dechreuodd broffwydo union ddyddiad dychwelyd brenhiniaeth Lloegr ac fe'i gwnaed yn gocyn hitio am hyn gan lawer. Ond coronwyd Siarl II ar yr union ddyddiad, a thawelwyd ei feirniaid.[1]

Llyfrau golygu

Cyhoeddodd sawl llyfr a phamffled, yn cynnwys:

  • Narration of the Life, Calling and Visions of Arise Evans[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwyddoniadur Cymru, Yr Academi Gymreig, Gwasg Prifysgol Cymru Caerdydd, 2008.
  2. 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Gweler hefyd golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.