Aristoffanes
Dramodydd comig Groegaidd oedd Aristoffanes,[1] fab Philippus (Groeg: Ἀριστοφάνης, ca. 456 CC – ca. 386 CC).
Aristoffanes | |
---|---|
Ganwyd | c. 445 CC Athen |
Bu farw | Athen |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | awdur comedi, dramodydd, bardd |
Adnabyddus am | Yr Acharnians, Yr Adar, Y Cymylau, Y Gosod-wragedd, Llyffantod, Y Marchogion, Lysistrata, Heddwch, Plutus, Thesmophoriazusae, Y Gwenyn Meirch |
Arddull | comedi |
Prif ddylanwad | Pindar, Euripides, Socrates |
Mudiad | Old Comedy |
Tad | Philippus |
Plant | Araros |
Nid oes sicrwydd ymhle na phryd y cafodd ei eni, ond roedd tua 30 oed yn y 420au pan gafodd lwyddiant mawr yn Theatr Dionysus yn Athen gyda'i ddrama Y Gwleddwyr. Cyfansoddodd 40 a ddramâu; mae unarddeg ohonynt wedi goroesi. Roedd llawer ohonynt yn ddramâu gwleidyddol, yn dychanu gwleidyddion Athen. Yn ddiweddarach, roedd ei feibion Araros, Philippus a Nicostratus hefyd yn llenorion.
Dramâu wedi goroesi'n gyflawn
golygu- Yr Acharniaid (425 CC)
- Y Marchogion (424 CC)
- Y Cymylau (yn wreiddiol 423 CC, fersiwn ddiwygiedig anorffen o 419 CC – 416 CC wedi goroesi)
- Y Gwenyn (422 CC)
- Heddwch (fersiwn gyntaf, 421 CC)
- Yr Adar (414 CC)
- Lysistrata (411 CC)
- Thesmophoriazusae (Y Gwragedd yn dathlu'r Thesmophoria, fersiwn gyntaf, c. 411 CC)
- Y Llyffantod (405 CC)
- Ecclesiazusae (c. 392 CC)
- Plutus (Cyfoeth, ail fersiwn, 388 CC)t
Llyfryddiaeth
golygu- Edwards, Huw Lloyd, Y llyffantod: drama mewn pedair golygfa (Dinbych: Gwasg Gee, 1973) ISBN 0-7074-0063-5 (Addasiad Cymraeg)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Aristophanes].