Pindar

bardd telynegion Groeg yr Henfyd

Bardd Groegaidd oedd Pindar (Hen Roeg: Πίνδαρος, “Pindaros”), (c. 522443 CC). Ystyrir ef yn un o feirdd mwyaf Groeg.

Pindar
Ganwyd517 CC Edit this on Wikidata
Cynocephalus Edit this on Wikidata
Bu farw437 CC Edit this on Wikidata
Argos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBoeotian confederation Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, mythograffydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amVictory Odes Edit this on Wikidata
PartnerTheoxenus of Tenedos Edit this on Wikidata

Ganed Pindar ym mhentref Cynoscephalae yn Boeotia, yn fab i Daiphantus and Cleodice. Priodiodd Megacleia, a chawsant ddwy ferch, Eumetis a Protomache, a mab, Daiphantus. Dywedir iddo farw yn Argos.

Teithiai Pindar ar hyd a lled y byd Groegaidd, o un noddwr i’r llall. Gellir casglu iddo dreulio amser yn llys Hiero I, unben Siracusa, lle cyfansoddodd farddoniaeth i glodfori buddugoliaethau Hiero a Theron yn y Gemau Olympaidd. Ymwelodd â Delphi ac Athen hefyd, ac ymddengys o’i weithiau iddo ymweld ag ynys Aegina. Roedd ganddo dŷ yn ninas Thebai, a chofnodir i’r tŷ hwnnw gael ei arbed gan Alecsander Fawr o barch i’r bardd pan gipiodd ef y ddinas.

Cyfansoddodd Pindar nifer o wahanol fathau o farddoniaeth: gweithiau (Paean) ac emynau eraill ar gyfer gwyliau crefyddol, cerddi moliant i bobl amlwg, marwnadau a cherddi i ddathlu buddugoliaethau yn y Gemau Olympaidd. Dyddia’r cynharaf o’i gerddi sydd ar glawr o tua 498 CC, yn dathlu buddugoliaeth Hippocleas o Thessalia yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn honno.

Gweithiau golygu

Yn ôl un awdur o’r henfyd, rhennid gweithiau Pindar yn 17 llyfr gan ysgolhegion yn Llyfrgell Alexandria:

  • 1 llyfr o humnoi - "emynau"
  • 1 llyfr o paianes - "paeanau"
  • 2 lyfr o dithuramboi - "dithyrhambau"
  • 2 lyfr o prosodia - "rhag-gerddi"
  • 3 lyfr o parthenia - "cerddi ar gyfer morwynion"
  • 2 lyfr o huporchemata - "cerddi ar gyfer dawnsio"
  • 1 llyfr o enkomia - "canu mawl"
  • 1 llyfr o threnoi - "marwnadau"
  • 4 llyfr o epinikia - "cerddi buddugoliaeth"

O’r gweithiau hyn, dim ond yr epinikia, y cerddi i ddathlu buddugoliaethau yn y Gemau Olympaidd, sydd wedi eu cadw yn gyflawn. Dim ond rhannau, yn cynnwys dyfyniadau gan awduron eraill, a gadwyd o’r gweddill.