Y Llyffantod (drama Roegaidd)

Drama Roegaidd gan Aristoffanes sy'n dyddio o'r flwyddyn 405 CC yw Y Llyffantod. Gwelodd y ddrama olau dydd gyntaf oll mewn cystadleueth ddrama yn y flwyddyn 405 CC.

Y Llyffantod
Dyddiad cynharaf405 CC
MamiaithGroeg
AwdurAristoffanes
GwladGwlad Groeg
IaithGroeg

"Roedd dwy gomedi arall yn y gystadleuaeth ond Y Llyffantod aeth â'r wobr ac mae'n debyg iddi gael cryn gymeradwyaeth gan y gynulleidfa a'i gwelodd hi gyntaf oherwydd fe fu'n rhaid trefnu i'w llwyfannu ar frys yr eildro o fewn ychydig ddyddiau. [...]

Pan Iwyfannwyd Y Llyffantod [...], buasai Athen yn amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau Sparta ers chwe mlynedd ar hugain, ac o fewn ychydig fisoedd i'r Ilwyfaniad fu’n rhaid [...] iddi ildio i nerth arfau dinas Sparta lle rhoddwyd bri ar nerth corfforol. [...]

I Aristoffanes, pan ysgrifennodd Y Llyffantod, yr oedd y dyfodol yn hollol ddu er na wyddai, wrth gwrs, y byddai tranc ei ddinas yn cael ei gyflawni o fewn ychydig fisoedd. Felly, yr hyn a gawn ni yn nrama Aristoffanes yw'r dramodydd, yn ei anobaith ynglŷn â'r dyfodol, yn troi tua'r gorffennol i chwilio am arweinwyr doeth i arbed Athen rhag difodiant Ilwyr. [...]

Yn y ddrama, mae Aristoffanes yn anfon y duw Dionysus - un o'r mân dduwiau - i Hades, sef y byd arall, i ofyn cyngor dau o brif ddramodwyr trasiedi Athen, sef Aeschylus ac Euripides. Er ei fod yn fân dduw, roedd gan Dionysus gyfrifoldeb mewn dau faes; y gyntaf, ef oedd duw drama; ac yn ail, ef oedd duw gwin. A hanes anturiaethau Dionysus ar ei ffordd i Hades ac yn Hades ei hun i ymgynghori â'r ddau ddramodwr yw Y Llyffantod.

Ond nid yw Dionysus yn croesi'r afon Styx i Hades yng nghwch Charon ar ei ben ei hun; y mae ganddo gwmni gwas go ddigri Xanthias digon tebyg o ran personoliaeth ydy hwn i Sancho Panza, gwas yr arwr Sbaenaidd hwnnw, Don Quixote. Ac with groesi'r afon Styx caiff y ddau eu cyfarch gan gorws o Iyffantod. Ar ôl cyrraedd yr ochr draw caiff Dionysus a Xanthias eu hunain ar ganol gŵyl fawr lle mae pobl ifanc yn cael eu derbyn yn aelodau cymdeithas gyfriniol. Yna, ceir mwy o anturiaethau digri ac yn y man cawn Dionysus yn farnwr mewn cystadleuaeth farddoni rhwng Euripides ac Aeschylus. Yn y gystadleuaeth, sydd yn ôl y beirniaid llenyddol yn un o'r enghreifftiau gorau a ysgrifennwyd erioed o ddychan llenyddol, gwelwn y ddau ddramodydd yn gwrthwynebu ei gilydd mewn brwydr eiriol - yn ymladd ar gownt arddull lenyddol a syniadau ynglŷn â chynnwys llenyddiaeth."[1]

Dylanwad Gymraeg

golygu

Cyfansoddodd y dramodydd Huw Lloyd Edwards ddrama Gymraeg ym 1973 yn seiliedig ar y ddrama Roegaidd. Galwyd y ddrama Gymraeg yn Llyffantod heb y fannod.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Edwards, D Gareth (Chwefror 1977). "Y Llyffantod". Barn 169.