Arnaut Daniel
cyfansoddwr a aned yn 1150
Trwbadŵr yn yr iaith Ocsitaneg ar ddiwedd y 12g oedd Arnaut Daniel de Riberac neu Arnaut Danièl. Disgrifir ef gan Dante fel "il miglior fabbro" ("y crefftwr/creawdwr gorau"), tra galwodd Petrarch ef yn gran maestro d'amor ("Feistr Mawr Cariad"). Yn yr 20g roedd Ezra Pound o'r farn mai ef oedd y bardd mwyaf erioed.
Arnaut Daniel | |
---|---|
Ganwyd | c. 1150, 1150 Ribérac |
Bu farw | c. 1210 Ribérac |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | Trwbadŵr, bardd, llenor, cyfansoddwr |
Mudiad | cerddoriaeth ganoloesol, troubadoric poetry |
Yn ôl un bywgraffiad, ganed Daniel yng nghastell Ribérac yn Périgord i deulu uchelwrol; ond mae ffynonellau eraill yn awgrymu nad oedd yn gyfoethog. Ef oedd dyfeisydd y sestina, cân o chwe pennill o chwe llinell yr un, gyda'r un geiriau mewn trefn wahanol ar ddiwedd pob pennill.
Dim ond deunaw o gerddi'r bardd sydd wedi goroesi; mae pob cerdd namyn un yn ymwneud â serch.
Llyfryddiaeth
golygu- G. Toja (gol.), Arnaut Daniel, Canzoni (Firenze, 1960)