Arofan
Bardd Cymraeg o'r 7g
Bardd Cymraeg o'r 7g oedd Arofan. Mae'n un o'r Cynfeirdd cynharaf a wyddys.[1]
Arofan | |
---|---|
Ganwyd | 7 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Tystiolaeth amdano
golyguCeir cyfeiriad ato yn y Triawd Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain, yng nghwmni Tristfardd a Dygynnelw.
Arouan vard Sele(v) ap Kynan (Garwyn)[2]
("Arofan bardd Selyf ap Cynan Garwyn")
Ceir dau gyfeiriad ato yng ngwaith Cynddelw Brydydd Mawr:
Gnavd canaf y volyant ual auan uertic / neu uartwavd arouan.[1]
("Arferol yw imi ganu moliant iddo fel (canu) Afan Ferddig / neu (canu) Arofan.")