Afan Ferddig

bardd o 7g

Bardd Cymraeg cynnar oedd Afan Ferddig (bl. 7g efallai). Ystyr y gair "Berddig" yw "bardd bychan" neu "jester"; ceir cyfeiriad arall at fardd o'r 11g a elwir Berddig, bardd yn llys Gruffudd ap Llywelyn yng Ngwent.[1]

Afan Ferddig
Ganwyd7 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw8 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd7 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCadwallon ap Cadfan Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Sant Afan, ac Afan (gwahaniaethu).

Tystiolaeth amdano

golygu

Ychydig sy'n hysbys amdano. Mae rhai ysgolheigion yn credu mai ef yw awdur y gerdd "Moliant Cadwallon". Yn ôl un o Drioedd Ynys Prydain canai Afan i'r brenin Cadwallon ap Cadfan o Wynedd. Mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain":

Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
Tristfardd bardd Urien,
A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.[2]

Roedd y Gogynfeirdd yn ei barchu fel bardd mawr, e.e. Cynddelw Brydydd Mawr sy'n dweud ei bod yn arferol ganddo ganu yn null Afan Ferddig:

Gnawd canaf i foliant fal Afan Ferddig.[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  berddig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Ionawr 2023.
  2. Trioedd Ynys Prydein, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1978)
  3. Dyfynnir gan Rachel Bromwich yn Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978). Orgraff ddiweddar.