Dygynnelw
Bardd a gysylltir ag Owain mab Urien Rheged yw Dygynnelw. Os gwir y traddodiad buasai yn ei flodau yn ail hanner y 6g[1] ac yn gyfoeswr â Thaliesin, yntau'n fardd a ganodd i Urien yn yr Hen Ogledd yn y cyfnod hwnnw.
Dygynnelw | |
---|---|
Ganwyd | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 6 g |
Cysylltir gyda | Owain ab Urien |
Tystiolaeth
golyguDim ond tri chyfeiriad a geir at Ddygynnelw. Mewn triawd yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain, mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain", gyda Tristfardd ac Afan Ferddig (orgraff ddiweddar):
- Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
- Tristfardd bardd Urien,
- A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
- Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.[2]
Mewn testun canoloesol sy'n ymwneud â chrefft y bardd llys, dywedir am amrywiad ar yr englyn unodl union ei fod yn 'englyn anghyfodl yr hwn a elwir "dull Dyg[yn]nelw"'.[2]
Yn olaf enwodd y Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr ei fab yn Ddygynnelw a chanodd farwnad nodedig iddo. Mae Rachel Bromwich yn awgrymu fod Cynddelw wedi dewis enwi ei fab ar ôl y Cynfardd (mae Dygynnelw yn enw anghyffredin iawn).[3]
Erbyn heddiw mae gwaith Dygynnelw i gyd ar goll, ond mae'n amlwg ei fod o statws arbennig yn y traddodiad cynnar.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991).
- ↑ 2.0 2.1 Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991), triawd 11, t.331.
- ↑ Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, gol. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (Caerdydd, 1991), t.367.