Arsenal F.C.

Clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr yw Arsenal Football Club (llysenw: The Gunners), sydd wedi'i leoli yn Stadiwm Emirates, yn Holloway un o faestrefi dinas Llundain sydd tua 3.3 milltir (5.3 km) i'r gogledd o Charing Cross.

Arsenal
Arsenal 1886-2011 Logo.png
Enw llawn Arsenal Football Club
(Clwb Pêl-droed Arsenal)
Llysenw(au) The Gunners
Sefydlwyd 1886 (fel Dial Square)
Maes Stadiwm Emirates, Llundain
Cynghrair Uwchgynghrair Lloegr

Hyd at 2016 roedd y clwb wedi ennill 12 Cwpan FA , pencampwr 13 teitl yr Uwchgynghrair, dau Gwpan Cynghrair ac 14 Tarian Cymuned yr FA.

Arsenal oedd y clwb cyntaf yn Ne Lloegr i ymuno gyda Cynghrair Pêl-droed Lloegr, a hynny yn 1893. Erbyn 1904 roedden nhw wedi cyrraed y gynghrair uchaf (yr adeg honno) sef yr 'Adran Gyntaf' (First Division). Ers hynny, nhw yw'r ail dim uchaf eu pwyntiau.[1] Relegated only once, in 1913, they continue the longest streak in the top division.[2] Yn y 1930au enillodd Arsenal 5 pencampwriaeth y Gynghrair, dau Cwpan yr FA. Wedi'r Ail Ryfel Byd fe enillon nhw un Cwpan FA arall a dau Bencampwriaeth. Yn 1970–71 fe enillon nhw'r Dwbwl cyntaf: y Gynghrair a'r Cwpan FA yn yr un tymor. Rhwng 1988 a 2005 fe enillon nhw 5 teitl Cynghrair a 5 Cwpan FA - a dau ohonyn nhw'n Ddwbwl. Ar ddiwedd 20g nhw oedd deiliaid y safle uchaf o ran cyfartaledd safleoedd cynghrair.[3]

Panorama o Stadiwm Emirates

CyfeiriadauGolygu

  1. "English Premier League : Full All Time Table". statto.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-10. Cyrchwyd 21 Ionawr 2016.
  2. Ross, James; Heneghan, Michael; Orford, Stuart; Culliton, Eoin (23 Mehefin 2016). "English Clubs Divisional Movements 1888-2016". www.rsssf.com. Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-05. Cyrchwyd 5 Awst 2016. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  3. Hodgson, Guy (17 December 1999). "Football: How consistency and caution made Arsenal England's greatest". The Independent (yn Saesneg). London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 13 Mai 2016.