Asoka
Ymerawdwr Ymerodraeth y Maurya yn India o 268 CC hyd 231 CC oedd Asoka, hefyd Ashoka, a elwir yn Asoka Fawr. Roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r hyn sy’n awr yn Affganistan hyd Bengal ac i’r de cyn belled a Mysore.
Asoka | |
---|---|
Ganwyd | 304 CC Patna |
Bu farw | 232 CC Patna |
Dinasyddiaeth | Maurya empire, India |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymerawdwr, bhikkhu |
Swydd | Mauryan Emperor |
Prif ddylanwad | Siddhartha Gautama |
Tad | Bindusara |
Mam | Subhadrangi |
Priod | Tishyaraksha, Karuvaki, Devi, Padmavati, Asandhimitra |
Plant | Kunala, Mahinda, Sangamitta, Tivala, Charumati |
Perthnasau | Chandragupta Maurya |
Llinach | Maurya dynasty |
Ystyr ei enw yn yr iaith Pali yw “rhydd o ofalon”. Roedd yn fab i’r ymerawdwr Bindusara a’i wraig Dhamma, ac yn wyr i .Chandragupta Maurya.Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwad Bwdhaeth ac ymwrthododd a rhyfel.
Yn 250 CC, cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawdd Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwys Bactria, Nepal, Myanmar, Gwlad Tai a Sri Lanca, ac efallai cyn belled ag Alexandria yn yr Aifft, Antioch ac Athen.
Daeth colofn o waith Asoka, a ddarganfuwyd yn Sarnath, yn arwyddlun cenedlaethol India, a cheir llun o ran ohoni ar faner India.
Chwedlau
golyguTyfodd cylch o chwedlau am Asoka a gafodd ddylanwad mawr yn y gwledydd Bwdhaidd. Ceir testunau cynnar o'r chwedlau hyn yn yr ieithoedd Pali a Sansgrit. Mae'n debyg fod rhai ohonynt wedi cael eu trosglwyddo ar lafar cyn hynny hefyd. Y testun mwyaf dylanwadol ac adnabyddus yw'r Asokavadana (Sansgrit, yn golygu 'Buchedd Asoka') a ysgrifennwyd yn y 3g OC yn India.
Llyfryddiaeth
golygu- John S. Strong (gol.), The Legend of King Asoka[:] A Study and Translation of the Asokavadana (Gwasg Prifysgol Princeton, 1983; argraffiad newydd gan Motilal Bansidarss, Delhi, 1989). ISBN 81-208-0616-6