Sarnath
Sarnath (hefyd Mrigadava, Migadāya, Rishipattana, Isipatana) yw'r man lle traddododd Siddhartha Gotama, y Bwdha, ei bregeth gyntaf yn egluro'r Dharma, a lle ffurfiwyd y Sangha Bwdhaidd cyntaf. Mae'n gorwedd yn nhalaith Uttar Pradesh yn India, 13 kilomedr i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Varanasi. Mae'n un o'r pedwar prif gyrchfan pererindod i ddilynwyr Bwdhaeth, gyda Kushinagar, Bodh Gaya a Lumbini.
Math | census town of India, dinas |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Varanasi district |
Gwlad | India |
Cyfesurynnau | 25.3811°N 83.0214°E |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Daeth y Bwdha i Sarnath o Bodh Gaya rhyw bump wythnos wedi iddo gael ei oleuo. Traddododd ei bregeth gyntaf, sef y Dhammacakkappavattana Sutta, i bump o ddilynwyr yn y parc ceirw yma. Erbyn yr 2 CC roedd cymuned fawr o fyneich yma. Ymwelodd yr ymerawdwr Asoka a'r fan, ac adeiladodd biler i nodi'r fan lle traddodwyd y bregeth; mae ei weddillion i'w weld heddiw. Yn y 12g dinistriwyd llawer o'r adeiladau gan Fwslimiaid Twrcaidd. O'r rhai sy'n weddill, y mwyaf tarawiadol yw'r Dhamek Stupa, 128 troedfedd o uchder, un o'r stupas cynharaf sydd wedi goroesi.