Asid swlffwrig

Asid cryf ydy asid swlffwrig (neu asid sylffwrig), H2SO4. Mae'n hydoddi mewn dŵr, ni waeth pa mor gryf ydyw. Bathodd alcemydd Mwslemaidd o'r 8g, sef Jabir ibn Hayyan, y term olew fitriol i'w ddisgrifio, ar ôl iddo ei ddarganfod. Vitriol neu vitreus oedd y gair Lladin am wydr gan fod yr halennau swlffad yn edrych fel gwydr.

Svovlsyre.png
Schwefelsäure3.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolCyfansoddyn cemegol, mineral acid, sulfur oxoacid, diprotic acid Edit this on Wikidata
Màs97.9674 Uned dalton edit this on wikidata
Fformiwla gemegolH₂so₄ edit this on wikidata
Yn cynnwyshydrogen, ocsigen, sylffwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
dde
dde

Caiff ei ddefnyddio'n helaeth; yn wir mae'n un o ddeunyddiau mwyaf poblogaidd y diwydiant cemeg. Yn 2001 roedd y byd yn cynhyrchu 165 miliwn tunnell ohono, gyda gwerth yr asid biliwn doler UDA. Fe'i defnyddir i brosesu mwynau ac i gynhyrchu gwrtaith. Caiff hefyd ei ddefnyddio yn y broses o buro olew a chemegolion eraill.

Fe'i ceir mewn glaw asid, batris ac yn atmosffer y blaned Gwener.

Science-template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.