Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Asti, sy'n brifddinas talaith Asti yn rhanbarth Piemonte. Saif yng ngwastadedd Afon Tanaro tua 34 milltir (55 km) i'r dwyrain o ddinas Torino.

Asti
Mathcymuned, dinas Edit this on Wikidata
PrifddinasAsti Edit this on Wikidata
Poblogaeth73,421 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Miami, Valence, Drôme, Biberach an der Riß, Ma'alot-Tarshiha, Servigliano, Veliko Tarnovo, Veliko Tarnovo Municipality Edit this on Wikidata
NawddsantSecondo di Asti Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Asti Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd151.31 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr123 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAzzano d'Asti, Baldichieri d'Asti, Calliano Monferrato, Castagnole Monferrato, Castell'Alfero, Castello di Annone, Celle Enomondo, Chiusano d'Asti, Cinaglio, Cossombrato, Isola d'Asti, Monale, Mongardino, Montegrosso d'Asti, Portacomaro, Refrancore, Revigliasco d'Asti, Rocca d'Arazzo, San Damiano d'Asti, Settime, Tigliole, Vigliano d'Asti Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.9°N 8.2069°E Edit this on Wikidata
Cod post14100 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 73,899.[1]

Digwyddiad enwog a gynhelir yn Asti ar y trydydd Sul o Fedi bob blwyddyn yw'r Palio di Asti, lle mae holl ardaloedd yr hen dref ynghyd â threfi cyfagos yn cystadlu mewn ras geffylau heb gyfrwy yn Piazza Alfieri yng nghanol y dref. Mae'r traddodiad wedi'i gadw ers y 13g. Dyma'r ras hynaf o'i math yn yr Eidal.

Mae'r ddinas yn ganolbwynt ardal cynhyrchu gwin, ac mae'n enwog am y gwin pefriog Asti Spumante, y gwin melys Moscato d'Asti a'r gwin coch Barbera d'Asti.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 11 Tachwedd 2022

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato