Rhanbarthau'r Eidal
ardal weinyddol yr Eidal lefel gyntaf
Ardaloedd gweinyddol lefel-gyntaf yr Eidal ydy rhanbarthau'r Eidal (Eidaleg: regioni d'Italia). Mae yna ugain ardal, gyda phump ohonynt yn meddu ar fwy o hunan-lywodraeth, sef Friuli-Venezia Giulia, Sardinia, Sisili, Trentino-Alto Adige a Valle d'Aosta (hynny yw tri rhanbarth ar y ffin ogleddol a'r ddwy brif ynys). Ac eithrio Valle d'Aosta, mae pob rhanbarth wedi'i rannu'n nifer o daleithiau.
-
Rhanbarth Prifddinas 1 Abruzzo L'Aquila 2 Valle d'Aosta Aosta 3 Puglia Bari 4 Basilicata Potenza 5 Calabria Catanzaro 6 Campania Napoli 7 Emilia-Romagna Bologna 8 Friuli-Venezia Giulia Trieste 9 Lazio Rhufain 10 Liguria Genova 11 Lombardia Milan 12 Marche Ancona 13 Molise Campobasso 14 Piemonte Torino 15 Sardinia Cagliari 16 Sisili Palermo 17 Trentino-Alto Adige Trento 18 Toscana Fflorens 19 Umbria Perugia 20 Veneto Fenis