Atafaeliad twymynol

Mae atafaeliad twymynol, yn ffit neu atafaeliad epileptig sy'n gysylltiedig â thymheredd corff uchel [1].

Atafaeliad twymynol
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, clefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathffit, y dwymyn Edit this on Wikidata
Thermomedr yn dangos gwres twymyn

Arwyddion a symptomau golygu

Mae atafaeliad twymynol, fel arfer, yn digwydd mewn plant rhwng 6 mis a 5 mlwydd oed [1]. Mae'r rhan fwyaf o atafaeliadau yn para am lai na phum munud a bydd y plentyn yn nol i'w gyflwr arferol o fewn chwedeg munud i'r digwyddiad [1][2].

Mae tueddiad at atafaeliadau twymynol yn rhedeg mewn teuluoedd [1].

Diagnosis golygu

Cyn gwneud diagnosis o atafaeliad twymynol bydd raid gwirio nad oes llid ar yr ymennydd, nad oes unrhyw broblemau metabolig, ac ni fu trawiadau blaenorol a ddigwyddodd heb dwymyn [1].

Fel arfer nid oes angen profion gwaed, delweddu'r ymennydd neu electroenceffalogramau (EEG) ar gyfer y diagnosis [1]. Argymhellir archwiliad i bennu ffynhonnell y dwymyn

Mathau golygu

Mae dau fath o atafaelu twymynol, trawiadau syml a thrawiadau cymhleth [1]. Mae trawiadau syml yn rai sydd yn effeithio ar blentyn iach fel arall sydd yn cael dim mwy nag un ffit tonig-clonig sy'n para llai na 15 munud mewn cyfnod o 24 awr.

Mae trawiadau cymhleth yn rhai lle mae'r ffit yn para am fwy na 15 munud neu fod nifer o episodau yn digwydd o fewn 24 awr.

Mae cyflwr epileptig twymynol yn ffit sy'n para am fwy na 30 munud. Mae cyflwr epileptig yn digwydd mewn tua 5% o achosion o atafaeliad twymynol.

Triniaeth golygu

Nid yw meddyginiaeth trin epilepsi na meddyginiaeth wrth dwymyn yn cael eu hargymell mewn ymdrech i atal ychwaneg o ffitiau. Yn yr ychydig achosion sy'n para fwy na phum munud, gellir defnyddio bensodiasepinau fel lorazepam neu midazolam [1][3].

Yn gyffredinol ni fydd plentyn sydd wedi gwella o ffit dwymynol yn dioddef unrhyw niwed parhaol. Mae cyflawniadau academaidd yn debyg i blant eraill a does dim newid yn y risg o farwolaeth ar gyfer y rheini sydd wedi cael ffitiau syml. Mae 'na rywfaint o dystiolaeth i awgrymu bydd blentyn sydd wedi cael ffit dwymynol tua 2% mwy tebygol o gael epilepsi.

Cyffredinoled golygu

Mae atafaeliadau twymynol yn effeithio ar ddau i ddeg y cant o blant [4] cyn eu bod yn bum mlwydd oed. Mae'n fwy cyffredin mewn bechgyn na merched. Ar ôl i blentyn cael un ffit mae yna siawns rhwng 15% i 70% o gael un arall.

Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Graves, RC with Oehler, K and Tingle, LE (Jan 15, 2012). "Febrile seizures: risks, evaluation, and prognosis". American family physician 85 (2): 149–53. PMID 22335215. https://archive.org/details/sim_american-family-physician_2012-01-15_85_2/page/149.
  2. "Symptoms of febrile seizures". www.nhs.uk. 01/10/2012. Cyrchwyd 13 October 2014. Check date values in: |date= (help)
  3. Paritosh Prasad (2013). Pocket Pediatrics: The Massachusetts General Hospital for Children Handbook of Pediatrics. Lippincott Williams & Wilkins. t. 419. ISBN 9781469830094.
  4. Patterson, JL; Carapetian, SA; Hageman, JR; Kelley, KR (Dec 2013). "Febrile seizures.". Pediatric annals 42 (12): 249–54. doi:10.3928/00904481-20131122-09. PMID 24295158.