Midasolam
Mae midasolam, sy’n cael ei farchnata dan yr enw masnachol Versed ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer anesthesia, tawelyddu ar gyfer triniaethau, anawsterau cysgu, a chynnwrf difrifol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₈H₁₃ClFN₃. Mae midasolam yn gynhwysyn actif yn Buccolam. .[2]
Midazolam | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | benzodiazepine drug |
Màs | 325.078 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₈h₁₃clfn₃ |
Clefydau i'w trin | Anhwylder gorbryder, dementia cynyrfiadol, cyflwr epileptig |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
Gwneuthurwr | Pfizer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sgil effeithiau
golyguGall sgil effeithiau gynnwys gostyngiad mewn ymdrechion i anadlu, pwysedd gwaed isel a chysgadrwydd.[2] Mae'n bosibl y bydd goddefgarwch i'w heffeithiau a symptomau diddyfnu o roi'r gorau i'r cyffur yn dilyn defnydd hirdymor. Gall effeithiau paradocs, megis gweithgaredd uwch, ddigwydd yn enwedig ymhlith plant a phobl hŷn[3]. Mae tystiolaeth o risg pan gaiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ond nid oes tystiolaeth o niwed gydag un dos yn ystod bwydo ar y fron[4][5]. Mae'n perthyn i'r dosbarth bensodiasepin ac mae'n gweithio trwy'r niwrodrosglwyddydd GABA.[2]
Hanes
golyguDechreuwyd defnyddio midazolam gyntaf ym 1976[6]. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[7]. Mae midazolam ar gael fel meddyginiaeth generig ac nid yw'n ddrud iawn[5]. Mae'r gost gyfanwerthu ffiol yn y byd datblygol tua 0.35 doller UDA[8]. Mewn llawer o wledydd, mae'n sylwedd rheoledig[2].
Defnydd meddygol
golyguFe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Mae'n gweithio trwy ysgogi cysgu, lleihau pryder, ac achosi colli'r gallu i greu atgofion newydd.[2] Mae hefyd yn cael ei ddefnyddiol ar gyfer trin ffitiau[9]. Gall midazolam gael ei weini trwy'r genau, yn fewnwythiennol, trwy chwistrelliad i mewn i gyhyr, wedi'i chwistrellu i'r trwyn, neu yn y boch.[2][9] Pan gaiff ei roi yn fewnwythiennol, fel rheol mae'n dechrau gweithio o fewn pum munud; pan gaiff ei chwistrellu i mewn i gyhyr, gall gymryd pymtheg munud i ddechrau gweithio.[2] Mae effeithiau'n para rhwng un a chwe awr[2].
Enwau
golyguCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Midasolam, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pubchem. "Midasolam". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 "Midazolam Hydrochloride". The American Society of Health-System Pharmacists. Cyrchwyd Aug 1, 2015.
- ↑ Riss, J.; Cloyd, J.; Gates, J.; Collins, S. (Aug 2008). "Benzodiazepines in epilepsy: pharmacology and pharmacokinetics.". Acta Neurol Scand 118 (2): 69–86. doi:10.1111/j.1600-0404.2008.01004.x. PMID 18384456. http://www3.interscience.wiley.com/cgi-bin/fulltext/120119477/HTMLSTART.[dolen farw]
- ↑ "Midazolam use while Breastfeeding". Cyrchwyd 29 August 2015.
- ↑ 5.0 5.1 Hamilton, Richart (2015). Tarascon Pocket Pharmacopoeia 2015 Deluxe Lab-Coat Edition. Jones & Bartlett Learning. t. 21. ISBN 9781284057560.
- ↑ Agasti, TK (2011). Textbook of anaesthesia for postgraduates (arg. First edition.). t. 351. ISBN 9789380704944.
- ↑ "WHO Model List of Essential Medicines" (PDF). World Health Organization. October 2013. Cyrchwyd 22 April 2014.
- ↑ "Midazolam". International Drug Price Indicator Guide. Cyrchwyd 29 August 2015.[dolen farw]
- ↑ 9.0 9.1 Brigo, F; Nardone, R; Tezzon, F; Trinka, E (August 2015). "Nonintravenous midazolam versus intravenous or rectal diazepam for the treatment of early status epilepticus: A systematic review with meta-analysis.". Epilepsy & behavior : E&B 49: 325-36. PMID 25817929.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |