Athrawiaeth Eisenhower
Athrawiaeth polisi tramor a broffeswyd gan lywodraeth Unol Daleithiau America yn ystod y Rhyfel Oer oedd Athrawiaeth Eisenhower a oedd yn addo cymorth milwrol neu economaidd i unrhyw wlad yn y Dwyrain Canol a oedd yn brwydro'n erbyn gwrthryfel neu oresgyniad comiwnyddol. Fe'i datganwyd gan Dwight D. Eisenhower, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar 5 Ionawr 1957. Nod yr athrawiaeth oedd i rwystro maes dylanwad yr Undeb Sofietaidd rhag ymledu i'r Dwyrain Canol. Ffurfiwyd y polisi hwn yn sgil argyfwng Suez (29 Hydref–7 Tachwedd 1956), gwrthdaro a achosodd y Sofietiaid a gwledydd comiwnyddol eraill i ddarparu arfau i'r Aifft. Bu'r bloc comiwnyddol yn datgan cefnogaeth dros y byd Arabaidd yn wyneb ymosodedd yr hen ymerodraethau Prydeinig a Ffrengig, yn ogystal â gwladwriaeth newydd Israel. Parhad o bolisi cyfyngiant, ymdrechion yr Unol Daleithiau i atal ymlediad comiwnyddiaeth, oedd Athrawiaeth Eisenhower, a oedd yn debyg i Athrawiaeth Truman (1947) a wnaeth addo cymorth i Wlad Groeg a Thwrci yn wyneb dylanwad Sofietaidd.[1]
Enghraifft o'r canlynol | athrawiaeth arlwyddol yr Unol Daleithiau |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Ionawr 1957 |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Eisenhower Doctrine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Mawrth 2020.