Mewn prifysgolion, gellir rhoi'r teitl athro emeritws (yn achos dyn) neu athro emerita (yn achos merch) i athro cadeiriol sydd wedi ymddeol.[1] Fel arfer, bydd gan brifysgolion system o enwebu a chymeradwyo enwau unigolion i gael y teitl, ac fel arfer ni fydd tâl yn gysylltiedig â'r swyddogaeth. Yn dibynnu ar arferion y brifysgol ac amgylchiadau penodol, mae'n bosib y bydd gan athrawon emeriti ofod swyddfa neu freintiau eraill yn y brifysgol.

Roedd Robert Thomas Jenkins yn athro emeritws ym Mhrifysgol Bangor o 1948 hyd ei farwolaeth.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Descriptions: Professors Emeriti, Research Professor". FAS Appointment and Promotion Handbook (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
  2. "JENKINS, ROBERT THOMAS (1881-1969), hanesydd, llenor a golygydd y Bywgraffiadur Cymreig". Y Bywgraffiadur Cymreig. 1997. Cyrchwyd 4 Mawrth 2023.
  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato