Ynys 6 km ² heb drigolion arni bellach yn ynysoedd Micronesia yn y Cefnfor Tawel yw Atol Bikini (Saesneg: Bikini Atoll; hefyd Pikinni Atoll). Mae'r atol yn perthyn i Ynysoedd Marshall. Fe'i ffurfir o 36 ynys lai sy'n amgylchu lagŵn 594.2 km². Mae'n eiddo i Unol Daleithiau America. Fel rhan o Dir Arbrofi y Cefnfor Tawel, defnyddiwyd Bicini fel safle i wneud 20 prawf arfau niwclear o 1946 hyd 1958, gan gynnwys y prawf cyntaf o fom hydrogen ymarferol yn 1954.

Atol Bikini
MathAtol, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Poblogaeth9, 13 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKeelung Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd Marshall, Bikini Atoll Edit this on Wikidata
GwladBaner Ynysoedd Marshall Ynysoedd Marshall
Arwynebedd6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr25 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau11.6°N 165.4°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Am enghreifftiau eraill o'r gair bikini, gweler Bicini.

Cafodd yr atol ei henwi gan y fforwr Otto von Kotzebue yn Bikini Atoll Eschscholtz Atoll ar ôl y gwyddonydd Johann Friedrich von Eschscholtz.

Cyn dechrau'r arbofion niwclear roedd grŵp o bobl brodorol yn byw ar yr ynys. Bu rhaid iddyn nhw symud i Atol Rongerik cyn i'r prawf cyntaf gael ei gynnal ym mis Gorffennaf 1946. Ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au, dychwelodd rhai o'r trigolion gwreiddiol i'r ynys o Ynys Kili ond fe'u gorfodwyd i symud oddi yno eto oherwydd y lefelau uchel o ymbelydredd.

Prawf atomig ar Atol Bikini
Eginyn erthygl sydd uchod am Oceania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.