Atol
Rîff, ynys fechan, neu gadwyn o ynysoedd cwrel ar ffurf cylch neu bedol o gwmpas lagŵn yw atol[1][2] neu gylchynys.[2] Ceir yng nghefnoroedd y byd, yn arbennig yn y Cefnfor Tawel. Fel rheol mae'n cynnwys un neu ragor o riffiau cwrel a ffurfir gan organebau morol. Daw'r enw o'r gair atolu, am ynysoedd o'r math yn iaith ynysoedd y Maldives.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Mae atolau enwog yn cynnwys atol Bikini.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ atol. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
- ↑ 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [atoll].