Oceania
Mae Oceania (/ˌəʊʃiˈeɪniə/) – weithiau Ynysoedd y Determinoleg – yn rhanbarth daearyddol, ac yn aml daearwleidyddol, sydd yn cynnwys nifer o diroedd – ynysoedd gan mwyaf ond fel arfer yn cynnwys Awstralia – yn y Cefnfor Tawel a chyffiniau. Mae hefyd yn cael ei hystyried yn gyfandir, ond mae hyn yn bwnc dadleuol. Mae diffiniad ystent union Oceania yn amrywio, gyda dehongliadau yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, ac ynysoedd gwahanol yn Ynysfor Malei. Oceania yw'r cyfandir lleiaf yn nhermau arwynebedd a'r lleiaf ond un yn nhermau poblogaeth, yn dilyn yr Antarctig.
Math | rhanbarth, part of the world |
---|---|
Poblogaeth | 44,491,724 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | wyneb y Ddaear |
Arwynebedd | 9,000,000 km² |
Cyfesurynnau | 18.5102°S 139.3671°E |
Trosolwg
golyguMae defnydd pennaf y term Oceania yn disgrifio rhanbarth macroddaearyddol sydd rhwng Asia a'r Amerig, gyda chyfandir Awstralia fel y brif ehangdir ac yn cynnwys rhyw 25 000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir yr enw "Oceania" yn hytrach nag Awstralia oherwydd, yn annhebyg i ddosbarthiadau cyfandirol eraill, y cefnfor a'r moroedd cyfagos yn hytrach na'r cyfandir sydd yn cysylltu'r tiroedd at ei gilydd.
Geirdarddiad
golyguDaw Oceania o'r gair Groegaidd Okeanís (Ὠκεανίς), merch nymff y duw Okeanís (Ὠκεανός), y Titan cyntaf-anedig. Daeth y term i'r Gymraeg trwy'r Saesneg: daw'r gair Saesneg am "gefnfor" – ocean – o Okeanos.
Terminoleg
golygu- Prif: Oceania (terminoleg)
Mae Oceania yn aml yn cael ei chymysgu â thermau arall am ranbarthau yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir y term Awstralasia i gyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, a nifer o'r ynysoedd llai sydd yn yr ardal, y rhan fwyaf ohonynt yn nwyrain Indonesia. Mae'r term yn cynnwys prif ynysoedd Oceania, ond nid yw'n cynnwys yr ynysoedd a chylchynysoedd bychain yn y Cefnfor Tawel. Mae "Awstralasia" yn aml yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg i ddisgrifio Oceania, gan nad yw "Oceania" yn ymddangos fel gair Cymraeg. Mae "Ynysoedd y De" i'w gweld ar draws y we fel term Cymraeg am Oceania, ond gan nad yw hyn wedi'i sefydlu fel gair safonol, defnyddir "Oceania" trwy'r erthygl hon.
Daearyddiaeth
golyguPlât tectonig cefnforol sy'n gorwedd o dan y Cefnfor Tawel yw Plât y Môr Tawel, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o Oceania. Yn 103 miliwn km sg (40 miliwn tr sg) dyma'r plât tectonig mwyaf ar wyneb y Ddaear. Mae'r plât yn cynnwys man poeth y tu mewn sy'n ffurfio Ynysoedd Hawaii. Cramen gefnforol bron yn gyfan gwbl ydyw. Diflannodd yr aelod hynaf trwy'r cylch tectoneg platiau yn gynnar yn Cretasaidd (145 i 137 miliwn o flynyddoedd yn ôl / CP).
Awstralia, gan ei bod yn rhan o'r plât Indo-Awstraliaidd, yw'r tir (landmass) isaf, mwyaf gwastad a'r hynaf ar y Ddaear ac mae ganddi hanes daearegol cymharol sefydlog. Digwyddodd grymoedd daearegol fel codiad tectonig o fynyddoedd neu wrthdaro rhwng platiau tectonig yn bennaf yn hanes cynnar Awstralia, pan oedd yn dal i fod yn rhan o Gondwana. Mae Awstralia yng nghanol y plât tectonig, ac felly ar hyn o bryd nid oes ganddi folcaniaeth weithredol.
Mae daeareg Seland Newydd yn nodedig am ei gweithgaredd folcanig a'idaeargrynfeydd a'i hardaloedd geothermol oherwydd ei safle ar ffin Plât Awstralia a Phlatiau'r Môr Tawel. Ar un adeg roedd llawer o graig islawr (basement rock) Seland Newydd yn rhan o uwch-gyfandir Gondwana, ynghyd â De America, Affrica, Madagascar, India, Antarctica ac Awstralia. Roedd y creigiau sydd bellach yn ffurfio cyfandir Selandia yn swatio rhwng Dwyrain Awstralia a Gorllewin Antarctica.
Holltodd darn cyfandirol Awstralia-Seland Newydd o Gondwana oddi wrth weddill Gondwana ar ddiwedd yr amser Cretasaidd (95–90 Ma / mega-annum). Erbyn 75 Ma, roedd Selandia yn ei hanfod ar wahân i Awstralia ac Antarctica, er mai dim ond moroedd bas a allai fod wedi gwahanu Selandia ac Awstralia yn y gogledd. Yna fe wnaeth Môr Tasman, a rhan o Selandia gloi ynghyd ag Awstralia i ffurfio Plât Awstralia (40 Ma), a chrëwyd ffin plât newydd rhwng Plât Awstralia a Plât y Môr Tawel.
Mae'r mwyafrif o ynysoedd y Môr Tawel yn ynysoedd uchel (sef ynysoedd folcanig), fel, Ynys y Pasg, Samoa America a Ffiji, ymhlith eraill, gyda chopaon hyd at 1300 metr yn codi'n sydyn o'r lan. Ffurfiwyd Ynysoedd Gogledd-orllewin Hawaii tua 7 i 30 miliwn o flynyddoedd yn ôl, fel llosgfynyddoedd tarian dros yr un man poeth folcanig a ffurfiodd mynyddoedd tanfor Ymerawdwr Semeounts i'r gogledd a Phrif Ynysoedd Hawaii i'r de. Mae Mauna Kea, mynydd uchaf Hawaii, yn 13,796 troedfedd (4,205 m) uwchlaw lefel gymedrig y môr.
Ecoddaearyddiaeth
golyguUn o wyth ecoranbarth daearol yw Oceania, sef rhanbarthau ecolegol pennaf y blaned. Mae ecoranbarth Oceania yn cynnwys Micronesia i gyd, Ffiji, a Pholynesia i gyd ar wahân i Seland Newydd. Mae Seland Newydd, gyda Gini Newydd ac ynysoedd cyfagos, Awstralia, Ynysoedd Selyf, Fanwatw, a Chaledonia Newydd, yn gwneud ecoranbarth Awstralasia.
Fflora
golyguGwlad fwyaf amrywiol Oceania o ran yr amgylchedd yw Awstralia, gyda fforestydd glaw trofannol yn y gogledd-ddwyrain, mynyddoedd yn y de-ddwyrain, y de-orllewin a'r dwyrain, ac anialwch sych yn y canol. Anialwch neu dir lled-gras (semi-arid land) a adwaenir yn gyffredin fel yr "outback" sef y rhan fwyaf o dir. Mae'r ucheldiroedd arfordirol a llain glaswelltiroedd Brigalow yn gorwedd rhwng yr arfordir a'r mynyddoedd, tra bod y mewndir yn ardaloedd eang o laswelltir. Pwynt mwyaf gogleddol arfordir y dwyrain yw Penrhyn Cape York sydd wedi'i goedwigo'n law drofannol.
Mae tirwedd Seland Newydd yn amrywio o aberoedd tebyg i fjords yn y de-orllewin i draethau trofannol yn y gogledd pell. Yr Alpau Deheuol sy'n dominyddu Ynys y De. Mae 18 copa o fwy na 3,000 m yn Ynys y De. Mae'r holl gopaon dros 2,900 m o fewn yr Alpau Deheuol, cadwyn sy'n ffurfio asgwrn cefn Ynys y De; y copa uchaf yw Aoraki / Mount Cook, sy'n 3,754 metr (12,316 tr)
Mae daeargrynfeydd yn Seland Newydd yn gyffredin, er nad yn ddifrifol fel arfer, ar gyfartaledd ceir tua 3,000 y flwyddyn. Mae yna amrywiaeth eang o goed brodorol, wedi'u haddasu i'r holl ficro-hinsoddau amrywiol yn Seland Newydd.
Yn Hawaii, mae un planhigyn endemig, Brighamia, bellach angen peillio â llaw oherwydd rhagdybir bod ei beilliwr naturiol wedi diflannu. Mae'r ddwy rywogaeth Brighamia - B. rockii a B. insignis - yn cael eu cynrychioli yn y gwyllt gan oddeutu 120 o blanhigion unigol, yn unig. Er mwyn sicrhau bod y planhigion hyn yn hadu, mae biolegwyr yn dringo i lawr clogwyni enfawr i frwsio paill ar eu stigma.
Ffawna
golyguMae glas y dorlan y Môr Tawel i'w gael yn Ynysoedd y Môr Tawel, fel y mae'r Bwlbwl tingoch, y Drudwen Polynesia, Gwalch Awstralia, Gwennol y Dwyrain a'r Melysor cardinalaidd, ymhlith eraill. Ymhlith yr adar sy'n bridio ar Ynysoedd Pitcairn mae Môr-wennol heidiol, yr Hurtyn cyffredin a throfan y gynffon goch. Ychwanegwyd Telor cyrs Pitcairn, sy'n endemig i Ynys Pitcairn, at y rhestr rhywogaethau sydd mewn perygl yn 2008.
Yn frodorol i Hawaii mae Brân Hawaii, sydd wedi diflannu'n y gwyllt ers 2002. Mae neidr y coed brown yn frodorol i arfordiroedd gogleddol a dwyreiniol Awstralia, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Guam ac Solomon. Rhywogaethau brodorol i Awstralia, Gini Newydd ac ynysoedd agos yw adar o baradwys, melysorion, dringedyddion Awstralasia, robiniaid Awstralasia, glas y dorlan, cigfachwyr ac adar Deildy (bowerbirds).
Rhanbarthau, gwledydd a thiriogaethau
golyguBathwyd y gair Oceania gan y fforiwr Ffrengig Dumont d'Urville yn 1831. Mae'n arfer cyffredinol i rannu Oceania yn Micronesia, Melanesia, Polynesia, ac Awstralasia. Ond fel unrhyw rhanbarth, mae dehongliadau yn amrywio; fwyfwy, rhannwyd Oceania gan ddaearyddwyr a gwyddonwyr i Oceania Agos ac Oceania Bell.
Mae'r rhan fwyaf o Oceania yn cynnwys gwledydd ynysoedd bychain. Awstralia yw'r unig wlad gyfandirol; yn ôl rhai diffiniadau, mae gan Indonesia gororau tir â Papua Gini Newydd, Dwyrain Timor, a Maleisia.
Enw tiriogaeth, gyda baner[1] |
Arwynebedd (km²) |
Poblogaeth (amcangyfrif 1 Gorffennaf 2002) |
Dwysedd poblogaeth (y km²) |
Prifddinas |
---|---|---|---|---|
Awstralasia[2] | ||||
Awstralia | 7 686 850 | 19 546 792 | 2.5 | Canberra |
Ynys y Nadolig (Awstralia)[3] | 135 | 474 | 3.5 | The Settlement |
Ynysoedd Cocos (Awstralia)[3] | 14 | 632 | 45.1 | West Island |
Seland Newydd[4] | 268 680 | 3 908 037 | 14.5 | Wellington |
Ynys Norfolk (Awstralia) | 35 | 1866 | 53.3 | Kingston |
Melanesia[5] | ||||
Ffiji | 18 270 | 856 346 | 46.9 | Suva |
Indonesia[6] | 499 852 | 4 211 532 | 8.4 | Jakarta |
Caledonia Newydd (Ffrainc) | 19 060 | 207 858 | 10.9 | Nouméa |
Papua Gini Newydd[7] | 462 840 | 5 172 033 | 11.2 | Port Moresby |
Ynysoedd Selyf | 28 450 | 494 786 | 17.4 | Honiara |
Fanwatw | 12 200 | 196 178 | 16.1 | Port Vila |
Micronesia | ||||
Taleithiau Ffederal Micronesia | 702 | 135 869 | 193.5 | Palikir |
Gwam (UDA) | 549 | 160 796 | 292.9 | Hagåtña |
Ciribati | 811 | 96 335 | 118.8 | Bairiki |
Ynysoedd Marshall | 181 | 73 630 | 406.8 | Majuro |
Nawrw | 21 | 12 329 | 587.1 | Yaren |
Ynysoedd Gogledd Mariana (UDA) | 477 | 77 311 | 162.1 | Saipan |
Palaw | 458 | 19 409 | 42.4 | Melekeok[8] |
Polynesia[9] | ||||
Samoa Americanaidd (UDA) | 199 | 68 688 | 345.2 | Fagatogo, Utulei[10] |
Ynysoedd Cook (SN) | 240 | 20 811 | 86.7 | Avarua |
Polynesia Ffrengig (Ffrainc) | 4 167 | 257 847 | 61.9 | Papeete |
Niue (SN) | 260 | 2134 | 8.2 | Alofi |
Ynysoedd Pitcairn (DU) | 5 | 47 | 1.0 | Adamstown |
Samoa | 2 944 | 178 631 | 60.7 | Apia |
Tocelaw (SN) | 10 | 1431 | 143.1 | —[11] |
Tonga | 748 | 106 137 | 141.9 | Nuku'alofa |
Twfalw | 26 | 11 146 | 428.7 | Vaiaku |
Wallis a Futuna (Ffrainc) | 274 | 15 585 | 56.9 | Mata-Utu |
Cyfanswm | 9 008 458 | 35 834 670 | 4.0 |
Nodiadau:
- ↑ Rhanbarthau a'r gwledydd ynddynt yn ôl dosbarthiad isranbarthau'r CU (map) ar wahân i nodiadau 2, 3 a 6. Yn dibynnu ar ddiffiniadau, gall rhai o'r tiriogaethau isod (nodiadau 3, 5-8) bod yn wledydd trawsgyfandirol, h.y. yn Oceania ac Asia, Oceania a Gogledd America, neu'r tri ohonynt.
- ↑ Mae defnydd y term yma yn amrywio. "Awstralia a Seland Newydd" yw dynodiad y CU ar gyfer y rhanbarth hwn.
- ↑ 3.0 3.1 Mae Ynys y Nadolig ac Ynysoedd Cocos yn daleithiau Awstralaidd pellennig yng Nghefnfor India, i dde orllewin Indonesia.
- ↑ Yn aml, ystyrir Seland Newydd fel rhan o Bolynesia yn hytrach nag Awstralasia.
- ↑ Ac eithrio Dwyrain Timor a rhannau o Indonesia, sydd yn ynysoedd yn Ne Ddwyrain Asia (isranbarth CU) a gynhwysir yn aml yn y rhanbarth hwn.
- ↑ Yn gyffredinol, ystyrir Indonesia fel rhan o Dde Ddwyrain Asia (isranbarth CU); yn aml, caiff ei gynnwys (yn hollol neu'n rhannol) yn Awstralasia neu Felanesia. Mae ffigurau'n cynnwys y rhan Indonesaidd o Gini Newydd (Irian Jaya) ac Ynysoedd Maluku.
- ↑ Yn aml, ystyrir Papua Gini Newydd yn rhan o Awstralasia yn ogystal â Melanesia.
- ↑ Ar 7 Hydref 2006, symudodd swyddogion llywodraethol eu swyddfeydd o'r brifddinas flaenorol Koror i Melekeok, 20 km i ogledd ddwyrain Koror, ar Ynys Babelthaup.
- ↑ Ac eithrio'r dalaith Americanaidd Hawaii, sydd wedi'i lleoli yn y Cefnfor Tawel, yn bell o ehangdir Gogledd America er cynhwysir yn aml yn y rhanbarth hwn.
- ↑ Canolfan ddeddfwriaethol a chyfreithiol Samoa Americanaidd yw Fagatogo; y ganolfan weithredol yw Utulei.
- ↑ Nid oes prifddinas gan Tocelaw, un o diriogaethau Seland Newydd: mae gan bob cylchynys canolfan weinyddol ei hunan.
Manylion a dadleuon deongliadol
golygu- Weithiau ni chaiff Awstralia ei gynnwys yn Oceania, er fel arfer bydd term megis "Ynysoedd y Cefnfor Tawel" yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio Oceania heb Awstralia. Mae'r term "Awstralasia" bob amser yn cynnwys Awstralia, ac fel arfer yn cynnwys Seland Newydd, Papua Gini Newydd, a rhannau o Oceania, ond mae'r term hwn weithiau'n ddadleuol tu fas i Awstralia, gan all ymddangos fel dynodi cyswllt ag Asia – cyfandir hollol wahanol – neu'n pwysleisio Awstralia gormod. Mae "austral" yn golygu "yn dod o, neu'n ymwneud â, y de", ac hwn yw geirdarddiad Awstralia ac Awstralasia.
- Yn gyffredinol, caiff Hawaii ei gynnwys yn Oceania, er ei fod yn rhan o'r Unol Daleithiau. Er bod Ynysoedd Hawaii rhyw pellter o'r rhan fwyaf o ynysoedd Oceania, maent dal yn gorfforol ac yn ddiwylliannol yn agosach at weddill Oceania nag at Ogledd America – ac nad ydynt unrhyw pellach o weddill Oceania nad ydynt at diriogaethau Americanaidd yng Ngogledd y Cefnfor Tawel.
- Mae'r ychydig o diriogaethau Americanaidd sydd yng Ngogledd y Cefnfor Tawel yn anghyfannedd ac eithrio personél gwasanaethu teithiol, a grwpir yn aml gyda thir mawr yr Unol Daleithiau yng Ngogledd America. Yn gyffredinol, ni ystyrir fel rhan o Oceania ac, yn annhebyg i Hawaii, maent yn agosach at Ogledd America – mae'r rhan fwyaf ohonynt yn agosach at Ogledd America nag ydynt at Hawaii.
- Ynys Polynesiaidd yn nwyrain y Cefnfor Tawel yw Ynys y Pasg, rhan o diriogaeth Tsile, a chynhwysir yn gyffredinol yn Oceania.
- Mae Seland Newydd wedi'i lleoli o fewn y Triongl Polynesaidd ac yn yr ystyr yma yn rhan o Bolynesia – mae Maorïaid Seland Newydd yn un o brif diwylliannau Polynesia.
- Ar adgeau anaml iawn gall ymestyn y term hyd yn oed yn bellach i gynnwys grwpiau ynysoedd eraill yn y Cefnfor Tawel megis Ynysoedd yr Aleut.
Economi
golyguMae'r mwyafrif eang o bobl yn y Cefnfor Tawel (nid yn cynnwys Awstralia a Seland Newydd) yn gweithio yn y diwydiant cynradd. Mae nifer o wledydd dal yn amaethyddol yn bennaf; er enghraifft, mae 80% o boblogaeth Fanwatw a 70% o boblogaeth Ffiji yn gweithio yn amaethyddiaeth. Prif gynnyrch y rhanbarth yw copra (neu gnau coco), a thyfir coedwydd, cig eidion, olew palmwydd, coco, siwgr a sinsir yn gyffredin ar draws drofannau'r Cefnfor Tawel. Caiff datgoedwigo coetir hynafol ei ecsbloetio ar ynysoedd mwy, yn cynnwys Ynysoedd Selyf a Papua Gini Newydd. Mae pysgota yn brif ddiwydiant mewn nifer o ynysoedd a chylchynysoedd llai y Cefnfor Tawel, er caiff nifer o ardaloedd pysgota eu hecsbloitio gan wledydd mwy, yn enwedig Siapan. Mwyngloddir adnoddau naturiol, megis plwm, sinc, nicel ac aur, yn Ynysoedd Selyf ac Awstralia, yng ngorllewin y rhanbarth.
Yn ddiweddar mae twristiaeth wedi bod yn ffynhonnell fawr o incwm am nifer o ynysoedd y Cefnfor Tawel (ar wahân i Awstralia a Seland Newydd, er fod ganddyn nhw busnes twristiaeth buddiol iawn); mae twristiaid yn dod o Awstralia, Seland Newydd, Siapan, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Ar hyn o bryd mae Ffiji yn denu bron i hanner miliwn o dwristiaid y flwyddyn; mwy na chwarter ohonynt o Awstralia. Mae hyn yn cyfrannu $300 miliwn i economi Ffiji.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o leoedd yn y Cefnfor Tawel dal yn dibynnu ar gymorth tramor ar gyfer datblygiad. Yn Ynysoedd Selyf talwyd 50% o wariadau'r llywodraeth gan roddwyr rhyngwladol; sef Awstralia, Seland Newydd, yr Undeb Ewropeaidd, Siapan a Gweriniaeth Tsieina (Taiwan).
Chwaraeon
golyguUn o chwe chydffederasiwn pêl-droed o dan nawddogaeth FIFA yw Cydffederasiwn Pêl-droed Oceania (OFC). Yr OFC yw'r unig gydffedrasiwn heb hawl awtomatig i Rownd Derfynol Cwpan y Byd. Ar hyn o bryd, mae angen i enillwr yr OFC chwarae "play-off" yn erbyn ochr o Gydffederasiwn Pêl-droed De America.
Mae Oceania wedi cael ei chynrychioli mewn tair Rownd Derfynol yng Nghwpan y Byd – Awstralia yn 1974, Seland Newydd yn 1982 ac Awstralia yn 2006. Ond nid yw Awstralia yn aelod o'r OFC bellach, gan ymunodd â Chydffederasiwn Pêl-droed Asia yn 2006.