Atonement (ffilm)

ffilm ddrama am ryfel gan Joe Wright a gyhoeddwyd yn 2007

Mae Atonement yn ffilm o 2007 sy'n addasiad o nofel Ian McEwan o'r un enw. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Joe Wright ac ysgrifennwyd y sgript gan Christopher Hampton. Cynhyrchwyd y ffilm a ffilmiwyd yn ystod Haf 2006 yn Lloegr a Ffrainc gan Working Title Films. Mae James McAvoy a Keira Knightley yn actio yn y ffilm. Dosbarthwyd y ffilm gan Universal Studios a rhyddhawyd y ffilm yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar y 7fed o Fedi, 2007. Fe'i rhyddhawyd yng Ngogledd America ar y 7fed o Ragfyr, 2007.

Atonement

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Joe Wright
Ysgrifennwr Nofel:
Ian McEwan
Sgript:
Christopher Hampton
Serennu James McAvoy
Keira Knightley
Saoirse Ronan
Romola Garai
Vanessa Redgrave
Cerddoriaeth AngeDario Marianelli
Sinematograffeg Seamus McGarvey
Golygydd Paul Tothill
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Pictures
Dyddiad rhyddhau 7 Medi 2007 (DU)
Amser rhedeg 123 munud
Gwlad Deyrnas Unedig
Ffrainc
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Agorodd Atonement Ŵyl Ffilm Fenis gan wneud Wright, a oedd yn 35 oed ar y pryd, y cyfarwyddwr ieuengaf erioed i agore yr ŵyl. Enillodd y ffilm Oscar am y Sgôr Wreiddiol Orau yn 80fed Gwobrau'r Academi a chafodd ei enwebu am chwech Oscar arall, gan gynnwys y Ffilm Orau, Sgript wedi'i addasu orau a'r Actores Gefnogol Orau (Saoirse Ronan).