Atopedd
Rhagdueddiad i gael alergeddau o ganlyniad i hanes teuluol yw atopedd (Groeg: ἀτοπία - heb leoliad). Mae pobl sy'n atopig yn fwy tebygol o ddatblygu alergeddau oherwydd bod eu cyrff yn cynhyrchu mwy o'r gwrthgorff Imiwnoglobwlin E (IgE) na'r arfer. Er bod atopedd yn cael ei etifeddu, mae ffactorau amgylcheddol hefyd yn chwarae rhan yn natblygiad anhwylderau alergaidd, ac o ganlyniad nad yw holl aelodau teulu yn cael eu heffeithio i'r un graddau.[1]
Atopedd | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Croenlid (Ecsema), amlygiad atopig nodweddiadol | |
OMIM | 147050 |
---|---|
DiseasesDB | 34489 |
Symptomau
golygu- Croen gwaelod y glust yn cracio
- Croenlid (ecsema)
- Croenlid ar y deth
- Neurodermatitis
- Dyshidrosis
- Keratosis pilaris
- Perlèche
- Llid y cyfbilen (conjunctivitis)
- Llid y ffroenau (rhinitis)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alergeddau: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.