Atynydd Mawr
Mae'r Atynydd Mawr yn anomali disgyrchiant yn y gofod rhyngalaethol ger Uwchglwstwr Centaurus sy'n datguddio bodolaeth cywasgiad más lleol sy'n cyfateb i fás degau o filoedd o galaethau, sy'n dangos i fyny oherwydd ei effaith ar symudiad galaethau a'r clystyrau cysylltiedig â nhw mewn rhanbarth o'r gofod sydd â'i led i'w fesuro mewn canoedd o filiynau o flynyddoedd golau.
Enghraifft o'r canlynol | galaxy filament, gravity anomaly, uwch glwstwr |
---|---|
Màs | 50,000,000,000,000,000 |
Rhan o | Uwch Glwstwr Laniakea, Zone of Avoidance |
Cytser | Norma |
Pellter o'r Ddaear | 250,000,000 blwyddyn golau, 75 |
Mae'r galaethau hyn i gyd yn dangos sifft coch, yn ôl rheolau Llif Hubble, sy'n dangos eu bod yn symud ymaith oddi wrthym ni ac oddi wrth ei gilydd hefyd, ac mae'r amrywiadau yn eu sifft coch, sy'n amrywio yn ôl pellter y galaethau oddi wrth yr Atynydd Mawr, yn ddigon i brofi bodolaeth yr anomali hwnnw.
Cafwyd yr arwyddion cyntaf a awgrymai gwyriad oddi ar ymlediad rheolaidd y bydysawd yn 1973 ac eto yn 1978. Yn 1986 darganfuwyd lleoliad yr Atynydd Mawr, sy'n gorwedd ar bellter o tua 150 miliwn i 250 miliwn blwyddyn golau (yr olaf yw'r amcangyfrifiad diweddaraf) i ffwrdd o'r Llwybr Llaethog (ein galaeth ni), i gyfeiriad cytserau Hydra a Centaurus. Dominyddir y rhan honno o'r gofod gan y clwstwr Norma (ACO 3627),[1] clwstwr anferth o galaethau, sy'n cynnwys galaethau hen yn bennaf, nifer ohonynt mewn gwrthdrawiad â'u cymdogion, ac/neu yn gollwng nifer fawr o tonnau radio.
Mae ceisiadau i astudio'r Atynydd Mawr a ffenomenau eraill yn yr ardal ymhellach yn cael eu llesteirio gan eu lleoliad mewn ardal o awyr y nos sy'n guddiedig gan rhanbarthau canol y Llwybr Llaethog â'i filiynau o sêr disglair.
Darllen pellach
golygu- Dressler, Alan. Voyage to the Great Attractor: Exploring Intergalactic Space. Efrog Newydd, Alfred A. Knopf, 1994.