Galaeth yw'r term a ddefnyddir mewn seryddiaeth am gasgliad o sêr, gweddillion sêr a mater rhyngseryddol a gedwir gyda'i gilydd dan ddisgyrchiant.

Galaeth
Enghraifft o'r canlynolmath o wrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Mathdeep-sky object Edit this on Wikidata
Rhan ogrŵp neu glwstwr o alaethau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Y y Llwybr Llaethog yw'r galaeth y mae'r Ddaear a Chysawd yr Haul yn trigo ynddi. Gydag Andromeda a galaethau eraill, mae'n un o'r galaethau yn y Grŵp Lleol. Mae'r Grŵp Lleol yn ei dro yn rhan o gasgliad o grwpiau a elwir yn Uwch Glwstwr Virgo.

Dosbarthiad golygu

 
Diagram rhediad Hubble

Cynigiodd y seryddwr Edwin Hubble system o ddosbarthu galaethau yn ôl eu ffurf. Mae tri prif ddosbarth:

  • E: Galaethau eliptig, amrywiadau o E0 ar ffurf pelen hyd E7 estynedig; fel rheol ychydig o nwy sy'n bresennol.
  • S: Galaethau troellog, amrywiadau o Sa hyd Sc (S am spiral), mwy o nwyon yn bresennol.
  • S0: Galaethau lensaidd, cynigodd Hubble y math hwn gan ddamcaniaethu bod yn rhaid iddynt bodoli er mwyn cwblhau'r rhediad gan lenwi bwlch rhwng E7 ac Sa. Gyda darganfyddiadau ychydig yn ddiweddarach, mi brofodd ei hun yn gywir.

Mae galaethau troellog bariog yn is-ddosbarthiad o alaethau troellog ac yn cael eu dynodi gan SB (am spiral barred). Tua hanner galaethau troellog sydd o'r math hwn, gyda'u breichiau yn ymestyn yn allan yn syth, fel bariau, cyn iddynt ddechrau troelli yn pellach allan o ganol yr alaeth.

Ceir hefyd alaethau afreolaidd, Ir (Irregular), na ellir eu dosbarthu yn yr un o'r uchod.

 
Galaeth Triangulum
 
Galaeth NGC1300

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.