Aulus Didius Gallus
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Aulus Didius Gallus (fl. c. 19 - 57). Roedd y llywodraethwr Prydain o 52 hyd 57 OC.
Aulus Didius Gallus | |
---|---|
Ganwyd | Unknown |
Bu farw | Unknown |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, quaestor, Conswl Rhufeinig |
Gwasanaethodd fel quaestor dan yr ymerawdwr under Tiberius, yn ôl pob tebyg yn 19; yna fel legad i broconswl Asia ac fel proconswl Sicilia. Bu'n dal swydd curator aquarum, yn gyfrifol am y cyflenwad dŵr i Rufain, o 38 hyd 39, ac yn gonswl yn 39.
Yn 52, daeth yn llywodraethwr Prydain, yn dilyn marwolaeth Ostorius Scapula. Roedd y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru yn parhau i ymladd yn erbyn Rhufain. Wedi marwolaeth Ostorius Scapula ond cyn i Didius gyrraedd ei dalaith, roeddynt wedi gorchfygu yr Ail Leng, Legio II Augusta, oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens. Adeiladodd Didius gareau ychwanegol ar y ffiniau, er enghraifft Brynbuga, yn hytrach na cheisio goresgyn tiriogaethau, a beirniedir ef gan yr hanesydd Tacitus am hyn.