Brynbuga

tref yn Sir Fynwy

Tref fechan a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Brynbuga[1][2] (Saesneg: Usk). Mae'r enw Saesneg yn deillio o Afon Wysg sy'n llifo trwy'r dref. Hen enw Brythoneg ar gaer Rhufeinig y dref oedd "Burrio", sef caer "cadarn", "cryf", "enfawr" ac efallai i'r gair hwn newid yn "buga".

Brynbuga
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,629, 2,318, 2,834 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGraben-Neudorf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7036°N 2.9019°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000807 Edit this on Wikidata
Cod OSSO375005 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Sefydlwyd y dref gan y Rhufeiniaid ym 55 OC, gyda'r enw Lladin Burrium.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Brynbuga. Llosgwyd Brynbuga gan fyddin Owain Glyndŵr ym 1403, ond cafodd y Saeson fuddugoliaeth yn erbyn Glyn Dŵr ym mrwydr Pwll Melyn, yn agos i Frynbuga, ym 1405.


Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Brynbuga (pob oed) (2,834)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Brynbuga) (271)
  
9.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Brynbuga) (1819)
  
64.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Brynbuga) (454)
  
39.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 27 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]