Australia (ffilm 2008)
Mae Australia ("Awstralia") (2008) yn ffilm ramantaidd epig a gynhyrchwyd gan Baz Luhrmann. Mae'n serennu Nicole Kidman a Hugh Jackman. Ysgrifennwyd y sgript gan Luhrmann a'r sgriptiwr Stuart Beattie ar y cyd â Ronald Harwood. Lleolir y ffilm rhwng 1939 a 1942 gyda digwyddiadau yng Ngogledd Awstralia fel bomio Darwin yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn gefnlen i'r ffilm. Cyhyrchwyd y ffilm yn Sydney, Darwin, Kununurra, a Bowen. Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm ar 13 Tachwedd 2008 yn Awstralia a 16 Tachwedd yn yr Unol Daleithiau; fodd bynnag, cyhoeddodd Fox eu bod wedi gwthio'r dyddiadau yn ôl yn Awstralia a'r Unol Daleithiau i 26 Tachwedd gyda'r ffilm yn cael ei ryddhau yn fyd eang ar ddiwedd mis Rhagfyr 2008 a Ionawr a Chwefror 2009.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Baz Luhrmann |
Cynhyrchydd | Baz Luhrmann Catherine Knapman G. Mac Brown |
Ysgrifennwr | Stori Baz Luhrmann Sgript Baz Luhrmann Ronald Harwood Stuart Beattie Richard Flanagan |
Serennu | Hugh Jackman Nicole Kidman Brandon Walters |
Cerddoriaeth | David Hirschfelder |
Sinematograffeg | Mandy Walker |
Golygydd | Dody Dorn |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 26 Tachwedd, 2008 |
Amser rhedeg | 166 munud |
Gwlad | Awstralia |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |