Mae Auzainvilliers yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc. Mae'n ffinio gyda Mandres-sur-Vair, Sandaucourt, Belmont-sur-Vair, Bulgnéville, Dombrot-sur-Vair ac mae ganddi boblogaeth o tua 224 (1 Ionawr 2021).

Auzainvilliers
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth224 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd8.25 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMandres-sur-Vair, Sandaucourt, Belmont-sur-Vair, Bulgnéville, Dombrot-sur-Vair Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.2372°N 5.8408°E Edit this on Wikidata
Cod post88140 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Auzainvilliers Edit this on Wikidata
Map

Poblogaeth hanesyddol golygu

 

Lleoliad golygu

Mae cymuned Auzainvilliers wedi ei leoli ar groesffordd y ffyrdd CD 14 a CD 18, tua 4 km o Bulgnéville a Sandaucourt a thua deg cilomedr o Contrexéville a Vittel[1].

Hanes golygu

Cafwyd hyd i fwyell garreg cyn hanesyddol caboledig yn yr ardal sy’n awgrymu bod pobl wedi bod yn byw yma ers amser maith. Mae’r fwyell bellach yn cael ei gadw yn Amgueddfa Adrannol Epinal.

Mae'r pentref yn cael ei grybwyll mewn dogfen yn dyddio o 1116 o dan yr enw Osenvillare, sy’n awgrymu bod enw’r pentref yn deillio o’r cyfenw Almaeneg Oso a’r gair Lladin am faes villare.

Cafodd pentref hynafol Surcelles (neu'r Surcelle) ei losgi gan fyddin Sweden ym 1640, gyda’i phoblogaeth yn ffoi i Auzainvilliers.

Ar ôl llawer o frwydrau trwy’r canrifoedd cafodd Castell Orgeville, a oedd yn dyddio i 1580, ei droi’n adfail. Defnyddiwyd yr olion fel chwarel i’r trigolion cyfagos. Mae grisiau cerrig allanol sydd i’w gweld o hyd ar rai o dai’r pentref wedi eu creu o’r garreg a dygwyd o’r castell.

Pobl enwog o Auzainvilliers golygu

  • Joseph Prélat, abad Abaty de l’Étanche (1727-1817) a aned yn y gymnuned

Gweler hefyd golygu

Cymunedau Vosges

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.