Avatar (ffilm 2009)
Ffilm epig ffuglen wyddonol Americanaidd o 2009 yw Avatar. Fe'i hysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan James Cameron ac mae'n serennu Sam Worthington, Zoe Saldana, Sigourney Weaver, Michelle Rodriguez, a Stephen Lang. Gosodir y ffilm yn y flwyddyn 2154 ar Pandora, lloeren yn y system serol Alpha Centauri.[4] Mae bodau dynol yn mwyngloddio mwyn gwerthfawr ar Pandora, tra bo'r Na'vi—hil led-ddynol frodorol—yn gwrthsefyll ymlediad y gwladychwyr, sydd yn bygythio bodolaeth y Na'vi ac ecosystem Pandora. Cyfeiria teitl y ffilm at y cyrff, a greir gan ddefnyddio peirianneg enetig, a ddefnyddir gan gymeriadau'r ffilm i ryngweithio â'r Na'vi.[5]
Poster theatraidd | |
---|---|
Cyfarwyddwr | James Cameron |
Cynhyrchydd | James Cameron Jon Landau |
Ysgrifennwr | James Cameron |
Serennu | Sam Worthington Zoe Saldana Stephen Lang Michelle Rodriguez Giovanni Ribisi Joel David Moore C. C. H. Pounder Wes Studi Laz Alonso Sigourney Weaver |
Cerddoriaeth | James Horner |
Sinematograffeg | Mauro Fiore |
Golygydd | James Cameron John Refoua Stephen E. Rivkin |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Lightstorm Entertainment Dune Entertainment Ingenious Film Partners |
Dosbarthydd | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 10 Rhagfyr 2009 (dangosiad cyntaf, Llundain) 18 Rhagfyr 2009 (Unol Daleithiau) |
Amser rhedeg | 162 munud[1] |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $237,000,000[2] |
Refeniw gros | $1,335,040,297[3] |
Dechreuodd Cameron ddatblygu Avatar ym 1994, pan ysgrifennodd scriptment 80 tudalen o hyd ar gyfer y ffilm.[6] Bwriadwyd i ffilmio ddechrau wedi cwblhad Titanic, ac yn ôl Cameron bydd y ffilm wedi'i rhyddhau ym 1999 os nad oedd "angen i dechnoleg dal lan" â'i weledigaeth o'r ffilm.[7][8] Ddechrau 2006, datblygodd Cameron y sgript, iaith y Na'vi,[9] a diwylliant Pandora. Awgrymodd Cameron bod dilyniannau yn bosib os yw Avatar yn llwyddiannus.[10][11][12][13][14][15]
Rhyddhawyd y ffilm mewn fformat 2-D traddodiadol, yn ogystal â fformatau 3-D ac IMAX 3D. Yn swyddogol cyllideb Avatar yw UD$237 miliwn;[2] mae amcangyfrifon eraill yn awgrymu cost o $280–310 miliwn i gynhyrchu a $150 miliwn am farchnata.[16][17][18] Honnir bod y ffilm yn bwysig yn nhermau technoleg gwneuthuriad ffilmiau, am ei datblygiad o olwg 3-D a gwneuthuriad ffilm stereosgopig gyda chamerâu a ddylunir yn arbennig at gynhyrchiad y ffilm.[19]
Rhyddhad
golyguSwyddfa docynnau
golyguEnillodd Avatar dim ond UD$3,537,000 ar ddangosiadau canol nos yn yr Unol Daleithiau a Chanada, yn rhannol oherywdd iddo gael ei dangos ar 2,200 o sgriniau 3-D yn unig.[20] Enillodd y ffilm $27 miliwn ar ei ddiwrnod agoriadol, a $77 miliwn dros ei benwythnos agoriadol yn yr Unol Daleithiau a Chanada, gan ei gwneud yn yr agoriad Rhagfyr ail fwyaf erioed, tu ôl i I Am Legend,[21][22] a'r agoriad penwythnos 25ain fwyaf yn yr Unol Daleithiau,[21] er gwaethaf lluwchwynt wnaeth gorchuddio Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau dan drwch o eira ac yn ôl adroddiadau wnaeth niweidio'i phenwythnos agoriadol.[16][22][23] O ran marchnadoedd rhyngwladol, cynhyrchwyd cyfansymiau o leiaf $10 miliwn ar benwythnosau agoriadol yn Rwsia ($20.8 miliwn), Ffrainc ($20.3 miliwn), y DU ($14.1 miliwn), yr Almaen ($13.2 miliwn), Awstralia ($11.9 miliwn), De Corea ($11.4 miliwn), a Sbaen ($10.9 miliwn).[24] Enillion gros byd-eang Avatar oedd amcan o $232,180,000 ar ôl tridiau,[21][23] y gros penwythnos-agoriadol nawfed fwyaf erioed, a'r mwyaf am ffilm wreiddiol nad oedd yn ddilyniant nac yn rhan o gyfres.[21] Gostyngodd refeniwau'r ffilm gan ddim ond 1.9% yn ei hail benwythnos ym marchnadoedd yr Unol Daleithiau a Chanada, wrth ennill $75,589,048 i aros ar frig y swyddfa docynnau.[25] Torrodd y ffilm record The Dark Knight am yr ail benwythnos mwyaf erioed.[26] Bu gostyngiad bychan arall mewn refeniw y ffilm yn ei thrydydd benwythnos, gan ostwng 9.7% am amcangyfrif o $68,300,000 yn yr Unol Daleithiau a Chanada, unwaith eto wrth aros #1 yn y swyddfa docynnau,[25] ond llwyddodd i dorri record hirsefydlog Spider-Man o $45,036,912 fel y drydydd benwythnos â'r gros uchaf erioed.[27] Ar yr 17th ddiwrnod o ryddhad y ffilm, croesodd y marc $1 biliwn byd-eang gan ei gwneud yn y ffilm gyflymaf erioed i wneud hynny.[28] Ar ôl dim ond 24 diwrnod wedi iddi gael ei rhyddhau, roedd Avatar wedi grosio $429 miliwn yn yr Unol Daleithiau a Chanada, a 26 diwrnod wedi iddi gael ei ryddhau grosiodd $902 miliwn mewn tiriogaethau eraill, gyda chyfanswm byd-eang o $1.331 biliwn.[3][21] Avatar yw'r ail ffilm uchaf ei gros byd-eang erioed,[29] a'r seithfed ffilm uchaf ei gros erioed yn yr Unol Daleithiau a Chanada (heb ei newid am chwyddiant).[30]
Derbyniad beirniadol
golyguYn gyffredinol derbyniodd Avatar adolygiadau ffafriol gan adolygwyr ffilm. Yn ôl y cydgrynhöwr adolygiadau Rotten Tomatoes, rhoddwyd adolygiad positif o'r ffilm gan 82% o 243 o adolygwyr proffesiynol, gyda marc cyfartalog o 7.4 allan o 10.[31] Ymhlith Top Critics Rotten Tomatoes, sy'n cynnwys adolygwyr nodedig a phoblogaidd o'r prif bapurau newydd, gwefannau, a rhaglenni teledu a radio,[32] mae gan y ffilm marc cymeradwyaeth hyd yn oed well o 87%, yn seiliedig ar sampl o 15 o adolygiadau.[33] Y farn gyffredin ar y wefan yw bod y ffilm "efallai yn fwy nodedig ar lefel dechnegol na fel stori, ond mae Avatar yn ailddatgan dawn unigryw James Cameron o wneud ffilmiau dychmygus a diddorol".[31] Ar Metacritic, sydd yn rhoi marc normaleiddiedig allan o 100 yn ôl adolygiadau ffilm a gasglir, mae gan Avatar sgôr o 84 yn seiliedig ar 35 o adolygiadau, sydd yn dynodi "canmoliaeth gan bawb".[34]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) BBFC rating and classification details for Avatar (8 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Patten, D. (3 Rhagfyr 2009). 'Avatar's' True Cost -- and Consequences. The Wrap. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Avatar. The Numbers. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) "Family Filmgoer", The Boston Globe, NY Times Co., 24 Rhagfyr 2009.
- ↑ (Saesneg) Winters Keegan, Rebecca (11 Ionawr 2007). Q&A with James Cameron. Time. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Jeff Jensen (10 Ionawr 2007). Great Expectations. Entertainment Weekly. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ Judy Hevrdejs. "Channel 2 has Monday morning team in place", Chicago Tribune, 9 Awst 1996.
- ↑ "Synthetic actors to star in Avatar", St. Petersburg Times, 12 Awst 1996.
- ↑ "Avatar Language". Nine to Noon. 15 Rhagfyr 2009.
- ↑ (Saesneg) Carroll, Larry (29 Mehefin 2006). 'Titanic' Mastermind James Cameron's King-Size Comeback: Two Sci-Fi Trilogies. MTV. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ Cyffredinol: http://www.boxofficemojo.com/alltime/world/.
- ↑ Gwlad lle'i gwnaed: "AVATAR".
- ↑ Iaith wreiddiol: "AVATAR".
- ↑ Dyddiad cyhoeddi: http://www.sfi.se/sv/svensk-filmdatabas/Item/?itemid=68935&type=MOVIE&iv=Basic. http://www.imdb.com/title/tt0499549/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. http://nmhh.hu/dokumentum/158984/2009_filmbemutatok_osszes.xls. http://www.zelluloid.de/filme/index.php3?id=7614. dyddiad cyrchiad: 13 Tachwedd 2017.
- ↑ Cyfarwyddwr: "AVATAR".
- ↑ 16.0 16.1 (Saesneg) Barnes, Brooks (20 Rhagfyr 2009). ‘Avatar’ Is No. 1 but Without a Record. The New York Times. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Ben Fritz (20 Rhagfyr 2009). Could 'Avatar' hit $1 billion?. Los Angeles Times. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Keegan, R. (22 Rhagfyr 2009). How Much Did Avatar Really Cost?. Vanity Fair. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) James Cameron's 'Avatar' Film to Feature Vocals From Singer Lisbeth Scott. Newsblaze.com (29 Hydref 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Avatar Scores $3.5 Million at Midnight Screenings, Big Opening Day in Australia. The Numbers (18 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ 21.0 21.1 21.2 21.3 21.4 (Saesneg) Avatar 2009 box office. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ 22.0 22.1 (Saesneg) Douglas, Edward (21 Rhagfyr 2009). Avatar Soars Despite Heavy Snowstorms. Comingsoon.net. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ 23.0 23.1 (Saesneg) "Avatar" leads box office, despite blizzard. Reuters (20 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Segers, Frank (20 Rhagfyr 2009). 'Avatar' dominates int'l boxoffice. The Hollywood Reporter. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ 25.0 25.1 (Saesneg) Weekend Box Office: January 8-10, 2010 Weekend. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) All Time Box Office: TOP WEEKENDS: 2ND – 12TH (2nd). Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) All Time Box Office: TOP WEEKENDS: 2ND – 12TH (3rd). Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Avatar tops billion dollars, fastest ever: movie tracker. Yahoo News. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) All time worldwide box office grosses. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) All Time Box Office: DOMESTIC GROSSES. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
- ↑ 31.0 31.1 (Saesneg) Avatar. Rotten Tomatoes. IGN Entertainment, Inc. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Rotten Tomatoes FAQ: What is Cream of the Crop. Rotten Tomatoes. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Avatar Reviews: Top Critics. Rotten Tomatoes. IGN Entertainment, Inc. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
- ↑ (Saesneg) Avatar (2009): Reviews. Metacritic. CNET Networks, Inc. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.