Titanic (ffilm 1997)

ffilm o 1997 gan James Cameron

Ffilm ramantaidd Americanaidd gan y cyfarwyddwr James Cameron yw Titanic (1997). Mae'n serennu Leonardo DiCaprio fel Jack Dawson a Kate Winslet fel Rose DeWitt Bukater, dau berson o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol iawn sy'n cwympo mewn cariad ar fordaith anffortunus y llong. Mae'r prif gymeriadau a'r llinnyn stori ramantaidd sy'n ganolog i'r ffilm yn ffuglennol, ond mae rhai cymeriadau (fel aelodau o griw'r llong) yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol. Adroddir y stori gan Gloria Stuart, sy'n chwarae rhan Rose pan yn hen wraig.

Titanic

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr James Cameron
Cynhyrchydd Jon Landau
James Cameron
Ysgrifennwr James Cameron
Serennu Leonardo DiCaprio
Kate Winslet
Billy Zane
Frances Fisher
Victor Garber
Cerddoriaeth James Horner
Sinematograffeg Russell Carpenter
Golygydd Conrad Buff
James Cameron
Richard A. Harris
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Yn rhyngwladol
20th Century Fox
UDA/Canada
Paramount Pictures
Dyddiad rhyddhau 19 Rhagfyr, 1997
Amser rhedeg 194 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Dechreuodd y broses gynhyrchu ym 1995, pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn Playas de Rosarito, Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth Paramount Pictures a 20th Century Fox. Bron i'r ddau gwmni fynd yn fethdalwyr yn ystod y cyfnod cynhyrchu.[1][2][3][4][5][6]

Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm yn wreiddiol ar yr 2 Gorffennaf 1997, ond roedd yr oedi ôl-gynhyrchu wedi golygu na chafodd y ffilm ei rhyddhau tan 19 Rhagfyr 1997. Daeth y ffilm yn llwyddiant beirniadaol a masnachol enfawr, gan ennill unarddeg o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau. Dosbarthwyd y ffilm hon gan Paramount Pictures. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 1,850,197,130 $ (UDA).

Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:

  • 4/4[7] (Roger Ebert)
  • 4/4[8]
  • 3.5/4[9] (Gene Siskel)
  • 4/4[10]
  • 8/10[11] (Rotten Tomatoes)
  • 87% (Rotten Tomatoes)
  • 75/100

.

Cymeriadau

golygu

Gwobrau

golygu

Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am y Gynllunio'r Cynhyrchiad Gorau, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Gwobr Ffilmiau Ewropeaidd - Gwobr Dewis y Bobl am yr Actores Orau.

Cafodd ei henwebu am y gwobrau canlynol: European Film Academy Achievement in World Cinema Award, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: http://www.boxofficemojo.com/alltime/world/. https://www.loc.gov/programs/national-film-preservation-board/film-registry/complete-national-film-registry-listing/. dyddiad cyrchiad: 25 Hydref 2022.
  2. Prif bwnc y ffilm: (yn en, ru) Titanic, Performer: James Horner. Composer: James Horner. Screenwriter: James Cameron. Director: James Cameron, 19 Rhagfyr 1997, ASIN B001SAAIG2, Wikidata Q44578, http://www.titanicmovie.com
  3. Gwlad lle'i gwnaed: https://www.europeanfilmawards.eu/en_EN/film/titanic.5495. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2020.
  4. Dyddiad cyhoeddi: http://www.mathaeser.de/mm/film/07572000012PLXMQDD.php. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2016. http://www.imdb.com/title/tt0120338/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Awst 2016. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. http://www.sfi.se/sv/svensk-filmdatabas/Item/?itemid=34351&type=MOVIE&iv=Basic.
  5. Cyfarwyddwr: https://www.csfd.cz/film/1250-titanic/prehled/. dyddiad cyrchiad: 19 Mawrth 2018. https://www.europeanfilmawards.eu/en_EN/film/titanic.5495. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2020.
  6. Sgript: https://www.europeanfilmawards.eu/en_EN/film/titanic.5495. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2020.
  7. Roger Ebert (19 Rhagfyr 1997). "Titanic" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  8. "Titanic (1997)" (yn Saesneg). 1997. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  9. Gene Siskel (19 Rhagfyr 1997). "Dicaprio Is The Ballast For `Titanic'" (yn Saesneg). Chicago Tribune. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  10. "Titanic" (yn Saesneg). Rolling Stone. 19 Rhagfyr 1997. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  11. "Titanic". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 10 Hydref 2021.