The Dark Knight (ffilm)

Ffilm sy'n serennu Christian Bale a Heath Ledger yw The Dark Knight (2008). Seiliwyd y ffilm ar y cymeriad Batman o'r DC Comics, ac mae'n rhan o gyfres Christopher Nolan o ffilmiau. Dyma'r dilyniant i Batman Begins (2005). Adrodda'r ffilm hanes Bruce Wayne/Batman (Bale) wrth iddo ef a'r awdurdodau frwydro yn erbyn bygythiad newydd y Joker (Heath Ledger). Cafodd Nolan yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Joker o'r llyfrau comig o'r 1940au a'r gyfres The Long Halloween (1996). Cafodd ei ffilmio'n bennaf yn Chicago, yn ogystal â lleoliadau eraill yn yr Unol Daleithiau, y DU a Hong Kong. Defnyddiodd Nolan gamera IMAX i ffilmio rhai golygfeydd, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf y Joker yn y ffilm.

The Dark Knight
Cyfarwyddwr Christopher Nolan
Cynhyrchydd Christopher Nolan
Charles Roven
Emma Thomas
Serennu Christian Bale
Michael Caine
Heath Ledger
Maggie Gyllenhaal
Morgan Freeman
Cillian Murphy
Cerddoriaeth Hans Zimmer
James Newton Howard
Sinematograffeg Wally Pfister
Golygydd Lee Smith
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Warner Bros
Dyddiad rhyddhau Awstralia:
17 Gorffennaf 2008
Gogledd America:
18 Gorffennaf 2008
Y Deyrnas Unedig:
25 Gorffennaf 2008
Amser rhedeg 152 munud
Gwlad  Y Deyrnas Unedig Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Rhagflaenydd Batman Begins
Olynydd The Dark Knight Rises
Gwefan swyddogol
Adolygiad BBC Cymru'r Byd
(Saesneg) Proffil IMDb

Ar yr 22ain o Ionawr, 2008, ar ôl gorffen ffilmio The Dark Knight, bu farw Ledger o gyfuniad o gyffuriau presgripsiwn. Arweiniodd hyn at sylw mawr yn cael ei roi i'r ffilm gan y wasg a chan y cyhoedd. Yn wreiddiol, bwriad Warner Bros. oedd i greu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer The Dark Knight gan ddefnyddio gwefannau a ffilmiau byrion, gan ddefnyddio siotiau sgrîn o Heath Ledger fel y Joker. Ar ôl ei farwolaeth, newidiodd y stiwdio eu hymgyrch hyrwyddo.[1] Rhyddhawyd y ffilm ar yr 16eg o Orffennaf, 2008 yn Awstralia, ar y 18fed o Orffennaf, 2008 yng Ngogledd America ac ar y 24ain o Orffennaf, 2008 yn y DU. Derbyniodd y ffilm adolygiadau cadarnhaol pan gafodd ei rhyddhau a daeth y ffilm i fod yr ail ffilm yn unig i ennill dros $500 miliwn mewn sinemau yng Ngogledd America. Dyma yw'r pedwerydd ffilm yn unig i wneud dros $1 biliwn o ran gwerthiant. Yn sgîl ei llwyddiant beirniadol a masnachol, enillodd y ffilm wobrau amrywiol o'r Ffilm Orau i'r Effeithiau Arbennig Gorau.

Cymeriadau golygu

Gwobrau ac Enwebiadau golygu

Hyd yn hyn, mae The Dark Knight wedi cael ei enwebu am dros 150 o wobrau ar gyfer sawl agwedd o'r ffilm, (gan gynnwys yn fwyaf penodol perfformiad Heath Ledger), sydd yn fwy nag unrhyw ffilm arall yn 2008. O'r enwebiadau hyn, enillodd y ffilm 92 gwobr.

Sefydliadau golygu

Gwobr Categori Enillwyd/Enwebwyd Canlyniad
Gwobrau'r Academi
Actor Cefnogol Gorau Heath Ledger Enillwyd
Cyfarwyddo Creadigol Gorau Nathan Crowley, Peter Lando Enwebwyd
Sinematograffiaeth Gorau Wally Pfister Enwebwyd
Golygu Ffilm Gorau Lee Smith Enwebwyd
Coluro Gorau John Caglione, Jr. a Conor O’Sullivan Enwebwyd
Golygu Seiniol Gorau Richard King Enillwyd
Cymysgu Seiniol Gorau Lora Hirschberg, Gary Rizzo a Ed Novick Enwebwyd
Effeithiau Gweledol Gorau Nick Davis, Chris Corbould, Tim Webber a Paul Franklin Enwebwyd
Cymdeithas Ffilm Americanaidd[2] 10 Ffilm Uchaf y Flwyddyn Warner Brothers Studios Enillwyd
Gwobrau BAFTA.[3] Actor Cefnogol Gorau Heath Ledger Enillwyd
Cerddoriaeth Gorau Hans Zimmer / James Newton Howard Enwebwyd
Sinematograffeg Gorau Wally Pfister Enwebwyd
Golygu Gorau Lee Smith Enwebwyd
Dylunio Cynhyrchiad Gorau Nathan Crowley / Peter Lando Enwebwyd
Gwisgoedd Gorau Linda Hemming Enwebwyd
Sain Gorau Lora Hirschberg / Richard King / Ed Novick / Gary Rizzo Enwebwyd
Effeithiau Gweledol Gorau Chris Corbould / Nick Davis / Paul Franklin / Tim Webber Enwebwyd
Gwallt a Cholur Gorau Peter Robb-King Enwebwyd
Cymdeithas Ddarlledu y Beirniaid Ffilm[4] Y Ffilm Orau Warner Brothers Studios Enwebwyd
Cyfarwyddwr Gorau Christopher Nolan Enwebwyd
Actor Cefnogol Goraur Heath Ledger Enillwyd
Cast Actio Gorau Bale, Caine, Ledger, Eckhart, Oldman, Gyllenhaal, a Freeman Enwebwyd
Ffilm Gyffro Orau Warner Brothers Studios Enillwyd
Cyfansoddwr Gorau James Newton Howard a Hans Zimmer Enwebwyd
GwobrauGolden Globes[5] Actor Cefnogol Gorau mewn Ffilm Heath Ledger Enillwyd
Gwaobrau'r Grammys[6] Sgôr Albwm Trac Sain Gorau James Newton Howard a Hans Zimmer Enillwyd
People's Choice Awards[7] Hoff Ffilm Warner Brothers Studios Enillwyd
Hoff Ffilm Gyffro Warner Brothers Studios Enillwyd
Hoff Gast Bale, Ledger, Eckhart, Caine, Oldman, Gyllenhaal, a Freeman Enillwyd
Hoff Seren Gyffro Gwrywaidd Christian Bale Enwebwyd
Hoff Prif Ddyn Christian Bale Enwebwyd
Favorite Superhero Christian Bale as Batman Won

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm archarwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.