Awdurdodaeth (cyfraith)

Yr awdurdod neu rym cyfansoddiadol[1] sydd gan endid cyfreithiol i weithredu cyfiawnder yw awdurdodaeth. Gall y term gyfeirio yn gysyniadol at rym y farnwriaeth neu adran benodol ohonni (er enghraifft, awdurdodaeth apeliadau neu awdurdodaeth ddiannod); at y diriogaeth sydd dan awdurdod llys neu drefn gyfreithiol benodol (er enghraifft, Cymru a Lloegr ydy awdurdodaeth cyfraith Lloegr); neu at y diriogaeth sydd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio gan senedd, cynulliad neu ddeddfwrfa arall.[2] Mae'r drydedd ystyr ynglwm wrth gysyniad sofraniaeth.

Cyfraith ryngwladol

golygu

Yng nghyd-destun y gyfraith ryngwladol, gweithredir awdurdodaeth ar sail pump egwyddor:

  1. egwyddor tiriogaeth, sydd yn cydnabod awdurdodaeth y wladwriaeth dros y diriogaeth lle digwyddodd y trosedd, heb ystyried cenedligrwydd y troseddwr;
  2. egwyddor cenedligrwydd, sydd yn cydnabod awdurdodaeth y wladwriaeth dros ei dinasyddion, hyd yn oed os ydynt yn troseddu o fewn ffiniau gwladwriaeth arall;
  3. yr egwyddor amddiffynnol, sydd yn dal bod gan y wladwriaeth yr hawl i weithredu ei hawdurdodaeth mewn pob achos pan bo ei diogelwch cenedlaethol dan fygythiad;
  4. egwyddor y bersonoliaeth oddefol, sydd yn hawlio awdurdodaeth gan wladwriaeth os troseddir yn erbyn un o'i dinasyddion, heb ystyried y diriogaeth lle digwyddodd y trosedd na chenedligrwydd y troseddwr; ac
  5. yr egwyddor fyd-eang, pan bo'r cyhuddedig wedi troseddu yn erbyn rheol jus cogens (hynny yw, trosedd yn erbyn dynoliaeth) ac felly caiff pa bynnag trefn gyfreithiol sydd yn dal y troseddwr honedig ei erlyn.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Jurisdiction. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2023.
  2. 2.0 2.1 Elizabeth A. Martin (gol.), A Dictionary of Law (Rhydychen: Oxford University Press, 2003), tt. 272–3.