Aydoilles
Mae Aydoilles yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc[1]
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 995 |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 10 km² |
Uwch y môr | 328 metr, 491 metr |
Yn ffinio gyda | Longchamp, Le Roulier, Sercœur, Vaudéville, La Baffe, Charmois-devant-Bruyères, Deyvillers, Dompierre, Épinal, Fontenay |
Cyfesurynnau | 48.2114°N 6.5719°E |
Cod post | 88600 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Aydoilles |
Lleoliad
golyguEr bod cymuned Aydoilles wedi ei gysylltu yn weinyddol â Bruyeres, mae’r pentref yn troi at Épinal fel ei gymuned fawr leol gan nad yw ond 11 km o’r ddinas ar ffordd y D420.
Poblogaeth
golyguHanes
golyguMae'r pentref yn sefyll ar safle gwersyll milwrol Rhufeinig hynafol a alwyd yn Aidolium gan y Rhufeiniaid. Arferai’r gwersyll sefyll ar y ffordd Rufeinig rhwng Luxeuil, Arches a Rambervillers. Daeth y ffydd Gristionogol i’r ardal yn y 4g.
Dioddefodd y pentref yn arw yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, gan gael ei losgi gan fyddin Sweden ym 1639.
Arferai bod ffatrïoedd teils a ffatri creu starts yn y pentref
Safleoedd a Henebion
golygu- Eglwys Sant Siôr â adeiladwyd yn wreiddiol yn y 15g, ac a ailadeiladwyd ym 1836.
Pobl enwog o Aydoilles
golygu- Roger Bontems; Llofrudd. Cafodd ei eni ar 20 Medi, 1936 yn Aydoilles a’i ddienyddio gan y guillotine 28 Tachwedd, 1972. Cafodd ei ddedfrydu i 22 mlynedd o garchar am ladrad arfog ym 1965. Ym 1971 cymerodd Bontems a’i gyd garcharor, Claude Buffet, ceidwad carchar a nyrs yn wystlon yn ysbyty eu carchar. Ar ddiwedd y gwarchae canfuwyd y gwystlon wedi eu llofruddio. Er mae Buffet oedd yn gyfrifol am lofruddio’r ddau cafwyd Bontems yn euog o fod yn gyd-droseddwr iddo[2]. Dedfrydwyd y ddau i’r gosb eithaf.