Nofelydd, ysgrifwr, a beirniad llenyddol Sbaenaidd oedd José Martínez Ruiz (8 Mehefin 18732 Mawrth 1967) a adwaenir gan y ffugenw Azorín. Efe oedd un o aelodau blaenllaw y mudiad llenyddol La Generación del 98.

Azorín
FfugenwAzorín, Cándido Edit this on Wikidata
Ganwyd8 Mehefin 1873, 11 Mehefin 1874 Edit this on Wikidata
Monòver Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 1967, 4 Mawrth 1967 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Centre educatiu privat Escola Pia Sant Antoni
  • Prifysgol Salamanca Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, llenor, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ffeithiol, dramodydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies Edit this on Wikidata
Arddulltraethawd, drama Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMiguel de Unamuno, Ángel Ganivet Edit this on Wikidata
MudiadCenhedlaeth 98 Edit this on Wikidata
PriodJulia Guinda de Urzanqui Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Croes Urdd Siarl III, Q77595621, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X Edit this on Wikidata

Ganed ym Monóvar, Valencia, yng Ngweriniaeth Gyntaf Sbaen. Astudiodd y gyfraith yn Valencia, Granada, a Salamanca. Symudodd i Fadrid i fod yn newyddiadurwr, ond roedd yn anodd iddo gael gwaith oherwydd ei agwedd ddi-flewyn-ar-dafod.[1]

Ysgrifennodd driawd o nofelau traethodol – La voluntad (1902), Antonio Azorín (1903), Las confesiones de un pequeño filósofo (1904) – a oedd yn hwb i La Generación del 98. Mynegir gwladgarwch diwylliannol Azorín yn ei gyfrol El alma castellana (1900) a'i gasgliadau o ysgrifau La ruta de Don Quijote (1905) ac Una hora de España 1560–1590 (1924). Ystyrir Azorín yn feirniad gwychaf Sbaen yn nechrau'r 20g, a dethlir clasuron llenyddiaeth Sbaeneg yn ogystal â mudiadau newydd yn ei weithiau megis Al margen de los clásicos (1915). Azorín oedd golygydd y cylchgrawn Revista de Occidente o 1923 i 1936.

Treuliodd Azorín gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen ym Mharis yn ysgrifennu i'r papur newydd Archentaidd La Nación. Dychwelodd i Fadrid ym 1949, a bu farw yno yn 93 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Azorín. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2020.