Traethawd
Gwaith llenyddol yw traethawd (lluosog: traethodau) a ysgrifennir o safbwynt yr awdur. Mae natur, strwythur a chynnwys traethodau yn amrywio'n eang, ac maent wedi bod yn bwysig ym meysydd beirniadaeth lenyddol, gwleidyddiaeth, sylwebaeth gymdeithasol, dadlau, cofiannau, a barnau personol. Mewn nifer o wledydd mae traethodau yn rhan allweddol o addysg.

Geirdarddiad
golyguGair benthyg o'r Lladin yw "traethawd" a dardda o'r gair "tractātus"[1], sydd yn golygu, yn ei ystyr eglwysig, 'bregeth' neu 'homili'[2]
Ffynonellau
golygu- ↑ Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.47
- ↑ http://www.ultralingua.com/onlinedictionary/dictionary#src_lang=Latin&dest_lang=English&query=tract%C4%81tus
Gweler hefyd
golygu- Adolygiad llyfr
- Crynodeb (gwaith academaidd)
- Erthygl academaidd
- Maniffesto
- Pamffled
- Traethawd ymchwil
- Ysgrif