Babis jeli
Mae Babis Jeli yn fath o felysion jeli meddal mewn siâp babanod, sy'n cael eu gwerthu mewn amrywiaeth o liwiau. Fe'u cynhyrchwyd gyntaf yn Swydd Gaerhirfryn, Lloegr, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. [1] Lleihaodd eu poblogrwydd ar ddechrau'r 20g cyn cael eu hadfywio gan gwmni Bassett's o Sheffield, Swydd Efrog, a ddechreuodd fasgynhyrchu babis jeli ym 1918. [1]
Enghraifft o'r canlynol | brand bwyd |
---|---|
Math | Melysion ffrwythau, melysion |
Deunydd | Gelatin |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguMae melysion ar ffurf babanod wedi bod ar gael ers o leiaf 1885. Bu cwmni Riches Confectionery, 22 Duke Street, London Bridge yn gosod hysbysebion am felysion babis jeli ym 1885, ynghyd ag amrywiaeth o felysion babanod eraill, gan gynnwys "Tiny Totties" a " Sloper 's Babies". [2] Ond roedd eu pris o ffyrling (1/4 hen geiniog, 1/960 punt) yr un, yn awgrymu eu bod yn llawer iawn mwy na'r babi jeli cyfoes. [3]
Dyfeisiwyd y losin ym 1864 gan fewnfudwr o Awstria oedd yn gweithio yng nghwmni Fryers, Swydd Gaerhirfryn. Ei fwriad oedd gwneud mowld ar gyfer melysion jeli ar siâp arth ond roedd y losin a ddeilliodd o hynny yn edrych yn debycach i faban newydd-anedig felly rhoddwyd yr enw , Unclaimed Babies[nb 1] iddynt." [1] [4] Ym 1918 cawsant eu cynhyrchu gan gwmni Bassett's yn Sheffield o dan yr enw "Peace Babies," i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf . [1] [5] Gohiriwyd cynhyrchu yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd prinderau amser rhyfel. Ail-lansiwyd y cynnyrch fel "Jelly Babies" ym 1953. [1]
Lansiwyd fersiwn tebyg o'r losin o'r enw Jellyatrics gan gwmni Barnack Confectionery Ltd i nodi Pen-blwydd 80 oed babis jeli ym mis Mawrth 1999. [6] Roedd Jellyatrics yn honni eu bod dathlu "popeth sy'n wych ac yn dda am y genhedlaeth hŷn". [7]
Nodiadau
golygu- ↑ Unclaimed baby—baban nad oedd rhiant am ei fagu, wedi ei adael ar stepen eglwys, ger ysbyty, mewn gorsaf rheilffordd ac ati er mwyn i ddieithryn ei "hawlio". Peth cyffredin yn oes Victoria.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Sweet success: Unravelling the Jelly Baby's dark past". BBC. 28 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Hydref 2022.
- ↑ Lloyd's Weekly Newspaper, 23 Mawrth 1885
- ↑ "Jelly Babies". Foods of England. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-20. Cyrchwyd 16 Hydref 2022.
- ↑ Sweets: The History of Temptation, Tim Richardson, Random House, 2002, ISBN 9780553814460
- ↑ "Bassett's". 22 Gorffennaf 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2008.
- ↑ Martin, Nicole (18 Mawrth 1999). "Jellyatrics revive those sweet memories". Irish Independent. Cyrchwyd 20 September 2020.
- ↑ "Meet the Jellyatrics". Jellyatrics.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-20. Cyrchwyd 16 Hydref 2022.