Melysion jeli
Melysion lliwgar a meddal sy'n defnyddio geliau megis gelatin neu bectin i gadw suropau mewn ffurf solet yw melysion jeli. Maent yn cynnwys lefel uchel o ddŵr (tua 15%) o'u cymharu â melysion eraill ac o ganlyniad nid ydynt yn cadw mor dda. Gellir hefyd eu cadelu gan ddefnyddio agar-agar neu startsh (er enghraifft melysyn Twrci).[1] Mae gymiau gwin, babis jeli ac eirth jeli yn enghreifftiau o felysion jeli poblogaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Gwasg Prifysgol Rhydychen, Rhydychen, 2006), t. 419.