Bae Abertawe
Bae ar lannau gogledd orllewinol Môr Hafren rhwng siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw Bae Abertawe. Amgylchynnir y bae, yn wrth-glocwedd, gan y trefi Porthcawl, Port Talbot, Llansawel, Abertawe, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r Afon Nedd, Tawe, Afan a nant Blackpill yn llifo i'r bae. Mae Bae Abertawe yn profi un o'r ystodau mwyaf o donnau yn y byd gydag uchafswm o tua 10m.
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5833°N 3.9°W |
Yn y 2010au crëwyd cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe sef Lagŵn Bae Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[1]
Hanes
golyguArferid pysgota am wstrys fod yn ddiwydiant pwysig yn Abertawe, gan gyflogi 600 o bobl yn ystod y 1860au. Fodd bynnag, o ganlyniad i or-bysgota, afiechydon a llygredd diflannodd yr wstrys bron yn llwyr erbyn 1920. Yn 2005, cyflwynwyd cynllun er mwyn ail-gyflwyno'r diwydiant.
Ym mis Medi 2005 roedd y Bae yn lleoliad i lofruddiaeth Ben Bellamy.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015