Bae Bermo
bae ar arfordir gorllewin Cymru
Bae ar arfordir gorllewin Cymru, yng Ngwynedd, yw Bae Bermo neu Bae Abermaw. Mae'n rhan o Fae Ceredigion. Mae'n gorwedd rhwng Morfa Dyffryn i'r gogledd ac Aber Dysynni i'r de. Mae Afon Mawddach yn llifo i ganol y bae trwy aber tywodlyd eang sy'n cael ei groesi gan Pont reilffordd Abermaw. Lleolir yr arfordir sy'n wynebu'r bae o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac eithrio tref Abermaw a phentref Fairbourne.
Math | bae ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6833°N 4.1°W ![]() |
![]() | |